Mae ymchwiliad wedi dod i’r casgliad y gellid fod wedi osgoi damwain hofrennydd a laddodd 16 o bobol oddi ar arfordir Yr Alban yn 2009.

Cafodd 14 o weithwyr olew a dau aelod o griw’r hofrennydd eu lladd pan blymiodd Bond Super Puma i Fôr y Gogledd ger arfordir Sir Aberdeen ar Ebrill 1, 2009.

Penderfynodd Prif Siryf Aberdeen, Derek Pyle fod nifer o wallau gan Bond wedi arwain at y ddamwain.

Dywedodd Bond Offshore mewn datganiad  nad oedd casgliadau’r Prif Siryf “wedi’u profi y tu hwnt i amheuaeth resymol”.

Ond ychwanegodd y cwmni eu bod nhw’n falch fod y Prif Siryf wedi cydnabod fod diogelwch y peilot a theithwyr yr hofrennydd yn bwysig i’r cwmni.

Ychwanegon nhw fod “angen dysgu gwersi” a’u bod nhw “wedi’u hymrwymo’n llwyr” i wella diogelwch eu hofrenyddion.

Y casgliadau

Dywedodd y Prif Siryf fod Bond wedi methu sicrhau eu bod nhw wedi cwblhau gweithdrefn ddiogelwch wrth ddilyn llawlyfr ar Fawrth 25, 2009.

Pe baen nhw wedi dilyn y cyfarwyddiadau, meddai, fe fyddai cydran oedd yn allweddol yn y ddamwain wedi cael ei dynnu oddi ar y cerbyd.

Fe ddywedodd fod y cwmni wedi methu adnabod y gydran yn ystod y gwaith cynnal a chadw.

Ychwanegodd fod diffyg cyfathrebu rhwng y cwmni a’r gwneuthurwyr, Eurocopter wedi arwain at gamddealltwriaeth wrth gwblhau’r gwaith cynnal a chadw.