Y Tywysog William
Mae’r Tywysog William, ŵyr y Frenhines, wedi cael ei feirniadu am fynd ar drip hela i Sbaen – ddiwrnod cyn lansio apêl ryngwladol yn erbyn hela anifeiliaid prin.

Mae’r Tywysog a’i dad, y Tywysog Charles, wedi recordio neges fideo mewn amryw ieithoedd yn galw ar y byd i weithredu ar frys i warchod anifeiliaid prin fel trwyngornfilod, eliffantod a theigrod.

Mae’r ddau dywysog ar fin cychwyn ar wythnos o weithgareddau cadwraeth bywyd gwyllt, a fydd yn arwain at gynhadledd ryngwladol yn Llundain ddydd Iau ar y fasnach anghyfreithlon mewn bywyd gwyllt.

“Mor ddiweddar â 100 mlynedd yn ôl, roedd cymaint â 100,000 o deigrod gwyllt yn byw yn Asia. Heddiw, y gred yw fod llai na 3,200 ohonyn nhw’n dal ar ôl,” meddai’r Tywysog Charles yn ei apêl.

Pan fydd y neges yn cael ei darlledu yfory, bydd William newydd ddychwelyd o Sbaen lle bydd wedi bod yn hela baedd gwyllt a cheirw gyda’i frawd Harry.

Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad Animal Defenders International ei bod yn “gwbl warthus” fod aelodau o’r teulu brenhinol yn cael pleser o saethu anifeiliaid.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r teulu brenhinol gael eu beirniadu am eu hoffter o hela – roedd y Tywysog Philip hefyd ymhlith y rhai fu’n saethu teigrod yn India.