Y stormydd diweddar yn Aberystwyth (llun: James Vaughan)
Mae Prif Wyddonydd y Swyddfa Dywydd yn amau’n gryf mai newid yn yr hinsawdd sydd wrth wraidd y stormydd diweddar.

Dywed y Fonesig Julia Slingo bod pob tystiolaeth yn awgrymu hynny – er nad oes prawf pendant ar hyn o bryd.

Rhybuddiodd hefyd y dylai gwledydd Prydain fod yn paratoi eu hunain ar gyfer rhagor o dywydd garw yn y dyfodol.

“Mae angen inni fynd ati ar frys i ddarganfod a rhagweld yn llawer mwy trylwyr unrhyw newidiadau mewn stormydd o dydd i ddydd ac o awr i awr,” meddai.

Roedd hi’n siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn sgil y don ddiweddaraf o stormydd i daro de Lloegr. Ei sylwadau yw’r awgrym cryfaf gan y Swyddfa Dywydd hyd yma am gysylltiad rhwng y tywydd eithafol a newid yn yr hinsawdd.

Indonesia a’r Môr Tawel

Mae’n dilyn cyhoeddi dadansoddiad gan y Swyddfa Dywydd sy’n dangos bod y stormydd diweddar yn deillio o law trwm a chyson yn Indonesia a gorllewin trofannol y Môr Tawel.

“Roedd y tywydd garw ym Mhrydain yn cyd-ddigwydd â thywydd eithriadol o oer yn Canada ac Unol Daleithiau,” dywed y dadansoddiad.

“Roedd y digwyddiadau o dywydd eithafol ar ddwy ochr yr Iwerydd yn gysylltiedig â phatrwm cyson o darfu ar y ffrwd jet dros y Môr Tawel a Gogledd America.”

‘Anarferol iawn’

Dywed y Fonesig Julia Slingo nad yw’r stormydd unigol yn eithriadol ynddyn nhw’u hunain, ond bod y clystyru a’r cysondeb yn anarferol iawn.

“Rydym wedi wedi gweld tywydd eithriadol,” meddai.

“A yw’n gyson gyda’r hyn y gallem ddisgwyl oddi wrth newid yn yr hinsawdd? Wrth gwrs, ni ellir cael ateb pendant ar hyn o bryd ar y digwyddiadau penodol yr ydym wedi’u gweld y gaeaf yma, ond os edrychwn ar y sail ehangach o dystiolaeth, yna rydym yn gweld pethau sy’n cefnogi’r ddamcaniaeth fod newid yn yr hinsawdd wedi bod yn gwneud cyfraniad.

“Un o’r agweddau mwyaf anghyffredin am dywydd y gaeaf yma yw cyfeiriad deheuol y stormydd. Maen nhw wedi bod yn taro rhan ddeheuol Prydain. Fe wyddon ni fod rhan is-drofannol a throfannol yr Iwerydd yn llawer cynhesach na’r hyn oedd 50 mlynedd yn ôl.

“Mae’r aer sy’n mynd i’r system stormydd hon yn dod o’r rhan hwnnw o’r Iwerydd lle mae’n amlwg am fod yn gynhesach  ac yn cludo mwy o leithder.”