Mae’n bosib na chawn ni byth wybod y gwir am fom Lockerbie, meddai cyn-lysgennad Prydain i Libya.

Dim ond un dyn – sef Abdelbaset al-Megrahi – a gafodd ei ddyfarnu’n euog o osod bom ar yr awyren a ffrwydrodd uwchben yr Alban.

Ond bu farw’r un dyn hwnnw yn Tripoli y llynedd, er bod ei deulu’n dal i ystyried apelio’n erbyn y dyfarniad.

“Roedd hi’n drychineb mor ofnadwy nes bod pobol yn mynd i fynnu cael at y gwir,” meddai Oliver Miles, cyn-lysgennad Prydain, ar raglen radio foreol y BBC heddiw.

“Ond dw i ddim yn meddwl y byddwn ni byth yn dod o hyd i’r gwir i gyd… ac fe fyddwn ni’n siarad am hyn am flynyddoedd i ddod.”

Er hynny, mae’n credu fod cyn-arlywydd Libya, Muammar Gaddafi yn gyfrifol, rywsut, am y bomio.