Gweddillion yr awyren a ffrwydrodd uwchben Lockerbie yn 1988 (Hawlfraint y Goron)
Fe fydd gwasanaethau coffa yn America, yr Alban a Llundain ddiwedd yr wythnos i nodi 25 mlynedd ers ymosodiad terfysgol Lockerbie pryd y cafodd 270 o bobl eu lladd.

Fe fydd y gweinidog yn Swyddfa’r Alban ac AS Lockerbie, David Mundell, yn cynrychioli llywodraeth Prydain mewn gwasanaeth goffa ym mynwent genedlaethol Arlington yn Washington ddydd Sadwrn.

Americanwyr oedd 189 o’r rhai a gafodd eu lladd.

Fe fydd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, a’r Arglwydd Wallace, Cyfreithiwr Cyffredinol yr Alban, yn mynychu gwasanaeth ym mynwent Dryfesdale yn Lockerbie.

Fe fydd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ac Ysgrifennydd yr Alban, Alistair Carmichael, mewn gwasanaeth yn Abaty Westminster a fydd yn cael ei gynnal yr un pryd.

Fe wnaeth awyren Boeing 747 Pan Am 103 ffrwydro uwchben Lockerbie ar 21 Rhagfyr 1988 gan ladd pawb ar ei bwrdd ac 11 o bobl ar y ddaear.

Un dyn yn unig, Abdelbaset al-Megrahi, a fu farw fis Mai y llynedd, a gafodd ei ddedfrydu am osod y bom.