Dylai budd-daliadau gael eu cyfyngu i ddau o blant, yn ôl un o aelodau bwrdd polisi’r Prif Weinidog David Cameron sy’n chwilio am ffyrdd o wario llai ar fudd-daliadau.

Dywed yr Aelod Seneddol Torïaidd Nadhim Zahawi y byddai cyfyngiadau fel hyn yn “arbed biliynau ac yn helpu’r genhedlaeth nesaf i feddwl yn fwy gofalus am eu perthynas gyda’r wladwriaeth les”.

Mae’n awyddus i weld y cyfyngiadau’n rhan o faniffesto’r Torïaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

Daw ei sylwadau ddyddiau ar ôl i’r Canghellor George Osborne ddweud y byddai’n ceisio gwneud toriadau pellach i’r wladwriaeth les os bydd y Torïaid yn ennill yn 2015.

Dywedodd llefarydd ar ran David Cameron, fodd bynnag, nad yw’r Prif Weinidog yn cefnogi cynigion Nadhim Zahawi.