Mae siop yn Llundain wedi dechrau gwerthu hufen iâ sydd wedi ei wneud o laeth o’r fron.

Mae’r pwdin – o’r enw Baby Gaga – ar werth o siop Icecreamists yn Covent Garden, Llundain.

Y pris yw £14 am fowlen o hufen iâ. Mae 75% o’r llaeth yn dod o’r fron a 25% o deth y fuwch.

Mae’r hufen ia wedi ei greu o laeth o fronnau 15 o ferched, ymatebodd i hysbyseb ar fforwm drafod ar-lein i famau beichiog.

“Mae o’n ddigon da i fabanod felly mae’n ddigon da i ni,” meddai Matt O’Connor, sylfaenydd Icecreamists.

“Ond mae o’n codi cwestiwn diddorol. Mae pobol yn ddigon hapus i ddefnyddio llaeth o fuwch sy’n cael ei chwistrellu â hormonau bob ychydig fisoedd.

“Mae yna amrywiaeth mawr yn y blas, yn dibynnu ar ba mor hir y mae’n fenyw wedi bod yn cynhyrchu llaeth a’i deiet yn gyffredinol.

“Mae’r llaeth yn fwy dyfriog na llaeth buwch ac yn blasu’n felysach.”

Mae o’n talu £15 i’r menywod am bob 10 owns o laeth o’r fron y maen nhw’n ei gynnig.