Lloyds TSB
Yn ôl y disgwyl, fe gyhoeddodd banc Lloyds TSB eu helw blynyddol cynta’ ers dechrau’r argyfwng ariannol.

Gyda 41% o’i gyfrannau yn nwylo’r Llywodraeth, fe lwyddodd y banc i droi colled o £6.3 biliwn yn 2009 yn elw o £2.2 biliwn y llynedd.

Roedd hynny er bod cost buddsoddiadau gwael yn Iwerddon wedi codi i £4.3 biliwn.

Ond, yn ôl y banc, roedd y busnes ar y stryd fawr wedi gwneud yn dda, gan agor bron 7 miliwn o gyfrifon newydd, yn rhai cyfredol a rhai arbed.

Mae’r cyhoeddiad yn dod yn glos ar ôl datganiad banc yr RBS eu bod nhwthau wedi torri’n sylweddol ar eu colledion yn ystod y flwyddyn ddiwetha’. Mae mwy na 90% o hwnnw mewn dwylo cyhoeddus.

Fe fydd Lloyds yn talu bonws o £1.45 miliwn i’w Prif Weithredwr, Eric Daniels, sy’n ymddeol.

  • Yng nghanolbarth Cymru y mae gwreiddiau banc Lloyds gyda theulu o Grynwyr, y Llwydiaid o Ddolobran ger Meifod.