Hamzah Kahn
Mae mam alcoholig i wyth oedd wedi ei chael yn euog o ladd ei mab pedair oed drwy ei lwgu i farwolaeth wedi cael ei charcharu heddiw.
Cafwyd Amanda Hutton, 43, yn euog o ddynladdiad ddoe ac mae hi wedi cael ei charcharu am 15 mlynedd.
Daethpwyd o hyd i gorff Hamzah Kahn mewn crud yn llofft ei fam ddwy flynedd wedi iddo lwgu i farwolaeth yn Bradford.
Rhoddwyd dedfryd ohiriedig o ddwy flynedd i’w mab hynaf, Tariq Khan, 24, am atal claddu ei frawd bach.
Dywedodd y Barnwr Roger Thomas QC bod y troseddau yn dangos ei bod hi wedi anwybyddu’r “dyletswydd sydd gan riant i gymryd gofal priodol o blant ifanc”.
Ychwanegodd y barnwr bod y plant wedi cael eu canfod mewn sefyllfa oedd yn “ddychrynllyd o wael”.