Fe fydd y Post Brenhinol werth hyd at £3.3 biliwn pan fydd preifateiddio dadleuol yn digwydd y mis nesaf, yn ôl Llywodraeth Prydain.
Mae disgwyl i gyfranddaliadau fod gwerth rhwng £2.60 a £3.30, sy’n cyfateb i werth o rhwng £2.6 biliwn a £3.3 biliwn.
Eisoes mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd 10% o’r cyfranddaliadau’n cael eu rhoi i 150,000 o weithwyr y Post Brenhinol – gwerth £2,000 yr un.
Fe fydd aelodau’r cyhoedd hefyd yn gallu gwneud cais am gyfranddaliadau.
Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn ystyried cynnal streic fis Hydref, i wrthwynebu’r newidiadau i’w swyddi, cyflogau a phensiynau.