Tywysog Andrew
Wnaeth swyddogion yr heddlu ddim adnabod Tywysog Andrew ar dir Palas Buckingham nos Fercher diwethaf.

Mi wnaethon nhw ei stopio gan ofyn iddo gadarnhau pwy oedd o. Mae llefarydd ar ran Scotland Yard wedi cadarnhau fod dyn wedi cael ei atal ond nid ydynt wedi cadarnhau mai Tywysog Andrew oedd y dyn hwnnw.

Doedd dim arfau wedi eu defnyddio yn ystod y digwyddiad yn ôl Scotland Yard.

Roedd hyn yn dilyn digwyddiad yn y Palas nos Lun pan wnaeth yr heddlu arestio dyn y tu mewn i’r Palas ar amheuaeth o fyrgleriaeth a thresbasu.