Sarah Teather
Mae un o wleidyddion amlyca’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud nad yw hi’n bwriadu sefyll fel aelod seneddol yn yr etholiad nesaf.

Mae Sarah Teather, aelod seneddol Brent Central yn Llundain, wedi dweud wrth bapur newydd yr Observer ei bod wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi oherwydd ei bod hi’n teimlo nad ydi plaid Nick Clegg “yn ymladd digon dros gyfiawnder cymdeithasol ac egwyddorion rhyddfrydol ar fewnfudo.”

Dim ond 29 oed oedd Sarah Teather pan gafodd ei hethol yn ôl yn 2003. Hi oedd yr aelod seneddol ieuengaf ym Mhrydain ar y pryd. Bu’n Weinidog Plant am gyfnod yn y llywodraeth glymblaid cyn dychwelyd i’r meinciau cefn y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd ei bod hi’n anghytuno’n arbennig ag agwedd caletach Nick Clegg tuag at fewnfudo oedd wedi ei gwneud yn hynod ddigalon, meddai.

Mi wnaeth Sarah Teather bleidleisio yn erbyn cynnig diweddar y llywodraeth i weithredu’n filwrol yn erbyn Syria.