Ed Miliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband wedi amlinellu  cyfres  o ddiwygiadau i geisio newid y berthynas rhwng y blaid a’r undebau, yn sgil yr helynt dewis ymgeisydd Seneddol yn Falkirk.

Mae’r  newidiadau’n debygol o arwain at wrthdaro â’r undebau sy’n cyfrannu’n ariannol tuag at ei blaid. Mae Ed Miliband yn bwriadu newid y system bresennol lle mae tal aelodaeth o’r undebau yn mynd yn uniongyrchol i goffrau’r blaid, cyflwyno côd ymddygiad i ddarpar-ymgeiswyr etholiadau, a chyflwyno system ethol ‘primaries’ ar gyfer dewis ymgeisydd ar gyfer etholiad Maer Llundain.

Dywedodd Ed Miliband ei fod eisiau gwleidyddiaeth “agored, tryloyw a hyderus” fel nad yw’r hyn a ddigwyddodd yn Falkirk yn cael ei ailadrodd.

Meddai: “Dylai aelodau unigol o’r undebau llafur ddewis bod yn aelod o’r Blaid Lafur trwy wneud tal gysylltu ac nid yn awtomatig. Yn y ganrif hon, nid oes synnwyr fod unigolion yn perthyn i blaid wleidyddol oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny. ”

Gall diwygiadau Ed Miliband fod yn gostus iawn i’r Blaid Lafur gyda rhai yn amcangyfrif y bydd y blaid yn colli miliynau o bunnoedd mewn rhoddion.

Ymateb yr undebau

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb Unite, Len McCluskey wedi croesawu datganiad Ed Miliband gan roi arwydd y bydd Unite yn barod i drafod y newidiadau ag ef. Meddai,

“Roedd Ed Miliband fel petai’n dweud ei fod eisiau gweld miloedd o undebwyr llafur yn chwarae rhan weithgar o fewn y Baid Lafur. Dyma rywbeth yr ydym yn ei groesawu.”

Ond mae newidiadau arfaethedig Ed Miliband wedi cael ei barnu gan Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT, Bob Crow.

Dywedodd: “Gydag ymosodiad diweddar y Blaid Lafur ar yr undebau, mae’r amser wedi dod i adeiladu plaid wleidyddol arall, sy’n siarad ar ran y dosbarth gweithiol. Mae dal gafael ar weddillion y Blaid Lafur, a wnaeth ddim i ddadwneud y deddfau wrth-undebol, yn wastraff amser.”