Abu Qatada
Fe fydd y clerigwr eithafol Abu Qatada yn parhau yn y carchar ar ôl i farnwr wrthod ei gais am fechnïaeth heddiw.

Cafodd Qatada ei gadw yng ngharchar Belmarsh yn dilyn honiadau ei fod wedi torri amodau ei fechnïaeth ym mis Mawrth.

Roedd Qatada, sy’n cael ei amau o fod yn derfysgwr, wedi dweud yn ddiweddar y byddai’n gadael y DU o’i wirfodd ar ôl brwydro am flynyddoedd yn erbyn ymdrechion i’w estraddodi.

Mae’n aros i gytundeb gael ei lunio rhwng y DU a Gwlad yr Iorddonen a fyddai’n sicrhau na fyddai tystiolaeth, a gafwyd o ganlyniad i arteithio, yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn.

Fe benderfynodd y barnwr Mr Ustus Irwin heddiw y byddai’n rhaid iddo aros dan glo yn dilyn gwrandawiad o’r Comisiwn Apeliadau Mewnfudo Arbennig (SIAC).