Margaret Thatcher
Mae’r cyn Brif Weinidog Margaret Thatcher wedi marw ar ol cael strôc, fe gyhoeddodd ei theulu heddiw.

Roedd yn 87 oed ac roedd ei hiechyd wedi bod yn fregus ers peth amser.

Roedd y Farwnes Thatcher yn Brif Weinidog rhwng 1979 a 1990. Hi oedd y ddynes gyntaf i fod yn Brif Weinidog ym Mhrydain.

Dywedodd ei llefarydd yr Arglwydd Bell: “Gyda thristwch, mae Mark a Carol Thatcher wedi cyhoeddi bod eu mam y Farwnes Thatcher wedi marw’n dawel ar ol cael strôc bore ma.”

Mae disgwyl i’w theulu wneud datganiad pellach yn ddiweddarach.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi canslo ei ymweliad ag Ewrop a bydd yn dychwelyd i’r DU cyn gynted a phosib yn dilyn y newyddion. Dywedodd bod heddiw yn “ddiwrnod trist iawn i’n gwlad” a bod Prydain wedi colli “arweinydd mawr, prif weinidog mawr a Phrydeinwraig fawr.”

Fe gyhoeddodd Downing Street y bydd y Farwnes Thatcher yn cael angladd swyddogol gydag anrhydeddau milwrol yng Nghadeirlan San Paul. Fe fydd gwasanaeth preifat mewn amlosgfa yn dilyn.

Fe fydd Aelodau Seneddol yn cael eu galw’n ol i’r Senedd er mwyn cael y cyfle i roi teyrngedau i Margaret Thatcher.

Teyrngedau

Dywedodd y Frenhines ei bod wedi tristau o glywed y newyddion am farwolaeth y Farwnes Thatcher ac fe fydd yn anfon neges breifat o gydymdeimlad at ei theulu, meddai llefarydd ar ran Palas Buckingham heddiw.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband y bydd yn cael ei chofio fel “ffigwr unigryw” ar y llwyfan rhyngwladol oedd wedi diffinio gwleidyddiaeth yr 80au.

“Fe fydd beirniaid a chefnogwyr yn ei chofio fel yr oedd yn ei hanterth,” meddai.

Yn y cyfamser fe gyhoeddodd y blaid y bydd yn gohirio’r ymgyrchu yn yr etholiadau lleol am gyfnod yn dilyn marwolaeth Margaret Thatcher.

Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg: “Roedd Margaret Thatcher yn un o’r ffigurau diffiniol ym mywyd gwleidyddol Prydain.

“Beth bynnag yw eich daliadau gwleidyddol, ni all unrhyw un wadu ei bod, fel prif weinidog, wedi gadael argraff unigryw a pharhaol ar y wlad y bu’n gwasanaethu.”

Cefndir

Bu Margaret Thatcher yn Brif Weinidog Ceidwadol rhwng 1979 a 1990 a gadawodd ei stamp ar gymdeithas yng ngwledydd Prydain. Roedd hi’n hoff o’r syniad o breifateiddio gwasanaethau ond yn gwrthwynebu grym yr undebau llafur.

Yng Nghymru mae atgofion cymysg am ei chyfnod yn Brif Weinidog. Yn dilyn rhyfel y Falklands yn 1982 llwyddodd y Ceidwadwyr i ennill 31% o’r bleidlais yng Nghymru ac 14 sedd seneddol.

Yn 1984-5 cafodd streic hir a chwerw ei gynnal gan y glowyr ac mae chwerwder at Margaret Thatcher a’i pholisïau wedi parhau yn yr hen gymunedau glofaol fyth oddi ar hynny. Eto, llwyddodd y Ceidwadwyr dan arweinyddiaeth Thatcher i ennill 29.5% o’r bleidlais yng Nghymru yn etholiad cyffredinol 1987 a pharhaodd hi’n Brif Weinidog tan 1990.

Cafodd arweinyddiaeth Thatcher ei herio yn 1989 gan Aelod Seneddol Gorllewin y Fflint, Anthony Meyer, ac arweiniodd hyn at ei disodli hi’n Brif Weinidog. Daeth John Major yn arweinydd y Ceidwadwyr ac yn Brif Weinidog yn Nhachwedd 1990.

Bu farw ei gŵr, Denis, yn 2003.

‘Diwrnod arbennig i lowyr’

Yn ôl un glöwr, David Hopper, ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Glowyr Durham, mae heddiw yn “ddiwrnod arbennig” i lowyr.

Roedd y cyn-löwr, oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed heddiw, wedi treulio blynyddoedd yn gweithio yng nglofa Wearmouth.

Dywedodd: “Mae’n edrych yn debygol mai dyma un o’r penblwyddi gorau rydw i erioed wedi ei gael.

“Does gen i ddim cydymdeimlad am yr hyn a wnaeth hi i’n cymuned. Fe chwalodd ein cymuned, ein pentrefi a’n pobl.

“Mae’n ddiwrnod arbennig i’r holl lowyr – mae’n debyg y byddwn ni’n cynnal gwrthdystiad ar ddiwrnod ei hangladd.

“Roedd hi’n casáu pobl oedd yn gweithio’n galed ac mae gen i atgofion chwerw iawn am yr hyn a wnaeth hi.”