Ed Balls - "teuluoedd gyffredin ar eu colled"
Fe fydd teuluoedd cyffredin yn colli miloedd o bunnoedd yn ystod y flwyddyn ariannol newydd sy’n dechrau heddiw, tra bydd 13,000 o filiwnyddion yn arbed £100,000, ar gyfartaledd, yn ôl Llafur.

Ymysg y newidiadau sydd wedi eu cyflwyno gan y llywodraeth glymblaid yn San Steffan, mae un penderfyniad yn golygu na fydd yn rhaid i neb ddechrau talu trethi nes eu bod nhw’n ennill £9,440, ac mae’r trothwy uwch wedi ei ostwng i £41,450.

Ond fe fydd teulu lle mae un o’r rhieni’n gweithio, yn waeth allan o gymaint â £4,000 y flwyddyn, yn ôl yr wrthblaid yn San Steffan. Heddiw, maen nhw’n cyhoeddi ystadegau sydd wedi’u cadarnhau a’u cefnogi gan swyddfa ystadegau ariannol yr OFS.

Ar y cyfan, mae Llafur yn honni y bydd cartre’ cyffredin yng ngwledydd Prydain, ar gyfartaledd, yn colli £891 y flwyddyn o ganlyniad i doriadau mewn budd-daliadau a threthi.

“Fe fydd yr holl wlad heddiw’n gweld ar ochr pwy y mae’r llywodraeth Dorïaidd hon, a phwy sy’n gorfod talu am ei methiant economaidd hi,” meddai Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls.