Mae tri aelod o griw cwch hwylio wedi eu hachub gan hofrennydd oddi ar arfordir Caint.

Fe gafodd Gwylwyr y Glannau Dover eu galw yn ystod oriau mân bore heddiw wedi i’r cwch hwyliau Barraccuda fynd i drafferthion ar draeth Goodwin ger Ramsgate.

Chafodd neb o’r criw ei anafu.

Mae’r gwaith o bwmpio dwr allan o’r cwch hwyliau yn dal i fynd rhagddo. Y bwriad yw tynnu’r cwch hwyliau i’r lan, unwaith y bydd hynny’n bosib.