Fe fydd munud o dawelwch yn cael ei barchu mewn maes pêl-droed yn Derby heddiw – er cof am y chwech o blant a laddwyd gan eu rhieni yn y ddinas y llynedd.

Mae Clwb Pêl-droed Derby wedi gofyn i gefnogwyr a staff ymuno yn y deyrnged i Jade, John, Jack, Jesse, Jayden a Duwayne Philpott.

Fe fydd y munud o dawelwch cyn gêm Derby yn erbyn Ipswich Town yn Stadiwm Pride Park heddiw.

Fe gafodd Mick Philpott, 56, ei garcharu am oes ddydd Mercher diwetha’, ar ôl ei gael yn euog o ddynladdiad y plant, ynghyd â’i wraig Mairead, 32, a’i ffrind, Paul Mosley.

Roedd Duwayne yn ddilynwr pêl-droed mawr, ac roedd arfbais Derby County wedi’i baentio ar ei arch wen.