James Bulger, 2 oed yn 1993
Mae mam James Bulger, a bachgen bach dwyflwydd a gafodd ei ladd yn 1993, wedi dweud ei bod hi’n gobeithio cael y cyfle i siarad mewn gwrandawiad parôl un o’r llofruddwyr, Jon Venables.
Fe fydd Denise Fergus yn dadlau bod Venables yn “seicopth”, ac mai dyna pam yr aeth o a’i ffrind, Robert Thompson, gipio a lladd James Bulger mewn canolfan siopa pan oedden nhw’n 10 oed. Mae’n honni ei fod yn parhau’n beryg i gymdeithas.
Fe gafodd Thompson a Venables eu carcharu am oes, ond eu rhyddhau ar drwydded pan ddaethon nhw’n 18 oed yn 2001.