Ar Ddiwrnod Clefyd y Siwgr y Byd heddiw (dydd Llun, Tachwedd 14), mae rhai sy’n byw â’r cyflwr yn galw am well addysg ac ymchwil.

Cymru sydd gan y nifer uchaf o achosion o glefyd siwgr yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn.

Yn 2020, cafodd 10,695 o bobol ychwanegol ddiagnosis o glefyd siwgr, ac mae mwy na 209,015 o bobol yng Nghymru bellach yn byw gyda’r cyflwr, sef 8% o’r boblogaeth 17 oed a hŷn.

A hithau hefyd yn fis i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr, bu golwg360 yn siarad gyda dwy sy’n byw â Chlefyd y Siwgr i ganfod mwy am y clefyd a’i effaith, a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu…

Mared Edwards

Yn wreiddiol o Sir Fôn ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd, cafodd Mared Edwards ddiagnosis o Glefyd Siwgr Math Un yn wyth mlwydd oed.

Gan fod ei chwaer fawr, Gwen, eisoes wedi derbyn diagnosis, roedd eu mam yn ymwybodol o’r symptomau ac yn tybio bod Mared yn byw gyda’r cyflwr hefyd.

Cafodd hyn ei gadarnhau pan gymrodd hi lefelau gwaed Mared un prynhawn, ac aeth Mared yn syth i’r ysbyty ble fuodd hi am y noson.

Mae Mared yn dweud ei bod hi’n teimlo bod diffyg dealltwriaeth o’r cyflwr.

“Pan mae pobol yn clywed y gair diabetes maen nhw’n gofyn os dwyt ti ddim yn cael bwyta siwgr,” meddai Mared wrth golwg360.

“Roedd o’n ddychrynllyd fel plentyn wyth oed yn gorfod injectio dy hun bob tro oeddet ti’n bwyta a phawb yn dweud dy fod di ddim yn cael bwyta hyn, llall ac arall.

“Wel, dwyt ti methu byw ar jest dŵr, nag wyt!

“Ti’n cael bwyta beth bynnag ti eisiau, dim ond dy fod yn gorfod injectio dy hun a chadw trac.”

Mared Edwards

Her arall mae Mared yn teimlo bod pobol sy’n byw gyda’r cyflwr yn ei hwynebu yw’r ffordd maen nhw’n cael eu trin wrth yfed alcohol.

“Dw i wedi cael pobol yn mynd i banig pan dw i’n yfed yn cwestiynu os ydw i wedi meddwi neu ydw i’n cael hypo.”

Yn ôl gwefan y Gwasanaeth Iechyd, mae hypoglycaemia yn golygu bod lefelau siwgr yn y gwaed yn disgyn gormod ac mae’n gallu bod yn beryglus os nad yw’n cael ei drin yn gyflym.

“Mae gen i ffrind sy’n heddwas a daethon nhw ar draws rhywun oedden nhw’n meddwl oedd wedi meddwi ac yn bod yn bach o boen.

“Ond y gwir oedd eu bod nhw’n cael hypo drwg a methu ymateb yn dda.”

Mae Mared ymysg y rhai sy’n cario cerdyn i brofi eu bod nhw’n byw gyda chlefyd siwgr ac yn meddwl y dylai pawb sy’n byw gyda’r cyflwr wneud rhag ofn bod argyfwng yn codi.

Addysg

Hoffai Mared weld mwy o addysg am y cyflwr, a mwy o addysg am gyflyrau eraill sy’n effeithio pobol bob dydd.

“Mae hyfforddiant cymorth cyntaf yn reit dda am fynd dros diabetes, sut i sylwi ar y symptomau a beth i wneud.

“Ond o ran gwybodaeth gyffredinol, dw i’n meddwl buasai’n dda i bobol gael gwybod mwy amdano fo, fel bod nhw ddim yn gwneud tybiaethau gwirion fel “ti ddim yn cael bwyta siwgr”, a beth sy’n gallu achosi, y triniaethau ar ei gyfer, a’r gwahaniaeth rhwng math un a math dau.

“Dw i’n gwybod yr arwyddion o epilepsi os oes yna rywun yn cael ffit.

“Ydw i angen gwybod pob dim am y cyflwr? Nag oes, debyg.

“Ond mae jest gwybod beth i wneud yn y sefyllfa yn help.”

Sian Fisher

Cafodd Sian Fisher o Rydaman, Sir Gaerfyrddin ddiagnosis o glefyd siwgr math un yn dair blwydd oed.

Mae hi’n dweud nad oedd syniad gan y bobol o’i chwmpas sut oedd trin clefyd siwgr 25 mlynedd yn ôl.

“Doedd dim ymwybyddiaeth ohono fe felly roedd lot o bobol yn poeni ac yn nerfus i ddisgwyl ar ôl fi jest rhag ofn,” meddai.

Sian Fisher o Rydaman

Ond erbyn hyn mae technoleg yn ei gwneud hi’n haws i Sian edrych ar ôl ei hun gyda datblygiad synwyryddion sy’n cael eu rhoi yn eich braich ac ati.

Er y datblygiad technegol, mae Sian yn teimlo nad oes datblygiad mawr wedi bod mewn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cyflwr.

“‘Mae Sian ffili bwyta hwnna,’ yw’r gyd ti’n clywed,” meddai.

“Does dim syniad gyda phobol o beth yw e a sut mae delio gyda fe.

“Fi’n credu bod eisiau mwy o ymwybyddiaeth ohono fe, ac yn bendant yn y gweithle.

“Mae eisiau i bawb cael rhyw fath o hyfforddiant ar sut i ddelio gyda fe – ond sai’n sôn am jest clefyd y siwgr – mae cwpl o bethau sy’n codi a byddai e’n rili defnyddiol i bobol deall nhw.

“Mae pethau’n codi ond mae pobol mor nerfus i ddelio gyda nhw achos bod nhw’n bethau mawr, ond gyda hyfforddiant mewn lle byddai hwnna’n helpu’r sefyllfa.

“Dylai e fod yn bolisi gyda’r cynghorau, os oes rhywun yn y gweithle neu’r adran efo problem feddygol bod hyfforddiant hanfodol fel bod pawb yn deall.”

Effaith Covid

Mae Sian wedi cael Covid tair gwaith erbyn hyn ac mae effaith y feirws i’w gweld ar ei lefelau gwaed.

Byddai Sian yn hoffi gweld ymchwil yn cael ei wneud am yr effaith mae Covid yn ei chael ar y cyflwr.

“Roedd popeth completely out of it,” meddai.

“Ro’n i wedi bod mor dda am edrych ar ôl fy hunan ond roedd o’n teimlo fel dim ots be ro’n i’n gwneud, roedd e mas o reolaeth.

“Roedd fy lefelau gwaed lan a lawr trwy’r amser.

“Doedd o byth ble roedd o fod ac roedd blinder hefyd.

“Ti ddim yn gwybod sut mae Covid am effeithio ti ac mae pob tro’n wahanol.”