Mae dwy ddynes wedi codi miloedd o bunnoedd rhyngthyn nhw i apêl elusennol yng Ngheredigion.

Cafodd Apêl Cemo Bronglais ei lansio gan Elusennau Iechyd Hywel Dda ym mis Tachwedd y llynedd, gyda’r nod o godi £500,000 ar gyfer adeiladu uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Byddai’r uned honno yn gwasanaethu cleifion canser nid yn unig o Geredigion, ond o Wynedd a Phowys hefyd.

Mae dros 60 o driniaethau gwrth-ganser yn digwydd yn yr ysbyty bob wythnos, ac mae cyfanswm o tua 300 o bobol y flwyddyn o bob rhan o Gymru yn derbyn triniaeth yno.

Bydd datblygu uned newydd yn costio tua £2.2 miliwn i’r bwrdd iechyd, ac mae £1.7 miliwn eisoes wedi ei gadarnhau ar gyfer y cynllun, tra bod y gweddill yn cael ei godi trwy’r apêl.

Mae dwy sy’n byw yng Ngheredigion, Emma Brooke ac Emma Evans, wedi bod yn codi arian i’r apêl dros y misoedd diwethaf ar ôl eu profiadau eu hunain yn yr uned bresennol ym Mronglais.

‘Ni fyddaf byth yn gallu diolch digon iddynt’

Emma Brooke

Roedd Emma Brooke o Gilcennin, ger Llanbedr Pont Steffan, yn codi arian er mwyn dangos gwerthfawrogiad i’r ysbyty ar ôl iddi orffen triniaeth am ganser y fron yno’r llynedd.

“Rwy’n gwybod â’m llygaid fy hun y gofal anhygoel y mae cleifion yn ei dderbyn a pha mor wych yw’r staff, ond byddai uned newydd yn gwneud yr amgylchedd gymaint yn well i staff a chleifion,” meddai.

“Ar hyn o bryd mae’r lle yn agored ac yn cael ei rannu gyda gwasanaethau eraill felly byddai man mwy preifat yn llawer mwy urddasol i gleifion wrth gael triniaeth.

“Cefais ddiagnosis o ganser y fron yn ôl ym mis Chwefror 2021. Yn dilyn mastectomi a thynnu lymff ym mis Mawrth, dechreuais gemotherapi diwedd mis Mai.

“Roedd y gofal a gefais gan staff yr uned cemotherapi drwy gydol fy nhriniaeth yn eithriadol ac ni fyddaf byth yn gallu diolch digon iddynt.”

Yn rhan o’i her, mentrodd Emma, sy’n 36 oed, i nofio mewn dŵr gwyllt gyda dros 20 o’i ffrindiau a’i chefnogwyr.

 

“Awgrymodd un o fy ffrindiau agosaf, Gina Williams, i mi roi cynnig ar nofio yn y môr i helpu gyda fy adferiad,” meddai.

“Felly, gan fy mod i eisiau codi ychydig o arian i’r uned i ddangos fy ngwerthfawrogiad, roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n gwneud dip noddedig fel dathliad o ddiwedd fy nhriniaeth.

“Roeddwn i hefyd eisiau codi ymwybyddiaeth a rhannu fy stori i helpu eraill sy’n mynd trwy’r un peth.

“Daeth fy nghyfanswm terfynol i £1,229.45 gwych ac rydw i mor ddiolchgar i bawb a gyfrannodd.”

‘Mae’n lle mor agos at ein calonnau’

Emma Evans (dde), gyda’i gŵr, Gareth, a’u dau blentyn

Mae Emma Evans o Bontcarreg ger Llangrannog hefyd wedi bod yn codi arian i’r apêl, er cof am ei gŵr, Gareth.

Bu farw ym mis Mawrth 2020 yn 45 oed ar ôl cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint Cam 4 a oedd wedi lledu i’w iau.

Cafodd Gareth driniaeth yn yr uned ddydd cemotherapi presennol yn Ysbyty Bronglais am ddwy flynedd, gan dderbyn imiwnotherapi a cemotherapi.

“Mae cael uned cemotherapi yn agos i’ch cartref mor bwysig a dyna pam rydw i’n cefnogi’r apêl am uned ddydd cemotherapi newydd pwrpasol yn Aberystwyth,” meddai Emma, sy’n gweithio i’r cyngor a’n fam i ddau o blant.

“Roedd yn golygu y gallwn gefnogi Gareth, wrth ddal i weithio a bod gyda’n dau blentyn.”

Mae Emma Evans wedi llwyddo i godi dros £3,000 i’r apêl yn dilyn marwolaeth ei gŵr.

“Roeddwn i eisiau codi arian i ddiolch i staff Ysbyty Bronglais,” meddai.

“Dros y ddwy flynedd y treuliodd Gareth a fi lan yn yr uned cemotherapi, roedd y staff yn anhygoel. Cawsom y fath groeso.

“Mae’n lle mor agos at ein calonnau.”

Uned newydd

Wrth drafod beth fyddai’r uned newydd yn ei olygu, ychwanegodd Emma: “Er mai’r gofal oedd y gorau, roedd yr uned cemotherapi yn fach ac roedd problemau preifatrwydd.

“Felly, byddai uned ddydd newydd yn newyddion gwych i gleifion ac i staff.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy nghodi arian yn helpu i godi ymwybyddiaeth a dangos pa mor ddiolchgar ydym fel teulu i’r holl staff.”