Mae apêl codi arian wedi cael ei lansio i godi £500,000, sef y swm sy’n weddill i allu darparu Uned Gemotherapi bwrpasol i gleifion allanol yn Ysbyty Bronglais.

Mae dros 60 o bobol yr wythnos yn cael triniaeth gwrth-ganser yn Ysbyty Bronglais, dros 300 o bobol y flwyddyn o Geredigion, de Gwynedd a gogledd Powys.

Bydd datblygu uned newydd yn costio oddeutu £2.2m, ac mae cyfanswm o bron i £1.7m wedi’i gadarnhau eisoes ar gyfer y cynllun.

Trwy Apêl Cemo Bronglais, mae ymdrech nawr i godi’r £500,000 sy’n weddill.

Prif nod y datblygiad yw darparu uned gemotherapi i gleifion allanol, sy’n fodern ac yn addas i’r dyfodol, er mwyn gwella profiad cleifion.

Yr uned

Dydy’r uned gemotherapi bresennol i gleifion allanol ddim wedi’i dylunio na’i bwriadu i ddarparu triniaeth wrth-ganser.

Ar hyn o bryd, mae’r uned mewn ardal agored, gyda nifer o glinigau eraill i gleifion allanol o’i chwmpas.

Mae hefyd angen cryn dipyn o waith moderneiddio arni er mwyn gallu darparu triniaeth gwrth-ganser yno yn y dyfodol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cymeradwyo cynlluniau i’r uned gemotherapi aros yn ei lleoliad presennol ac iddi gael ei hymestyn a’i hailwampio’n llwyr.

Gan fod y cynllun wedi’i gymeradwyo, y bwriad yw dechrau’r gwaith adeiladu ar yr uned newydd ym mis Chwefror 2023.

Mae Apêl Cemo Bronglais yn cael ei lansio gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, sef elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – ac mae angen codi £500,000 er mwyn i’r gwaith adeiladu ddechrau.

‘Helpu cleifion’

“Pan fyddwn yn siarad â chleifion, byddwn yn clywed llawer o bethau gwych am y gofal a’r gefnogaeth a gynigir gan y staff ac am y modd y maent yn gwneud mwy nag sydd raid yn aml i helpu cleifion,” meddai Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sirol Ceredigion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Ond mae angen i’r ardal y mae’r uned ynddi gael ei diweddaru er mwyn adlewyrchu’r gofal rhagorol sy’n cael ei ddarparu a’r bobol ymroddedig sy’n gweithio yma.

“Byddai uned gemotherapi newydd i gleifion allanol yn golygu ein bod yn rhoi profiad gwell i’n cleifion mewn cyfleuster modern sy’n addas i’r dyfodol ac sydd wedi’i deilwra ar gyfer cleifion â chanser sydd wedi cyrraedd amryw gyfnodau, gan gynnig lle mwy cysurus a chynnig mwy o breifatrwydd ac urddas.

“Y staff fydd yn arwain y gwaith o gadarnhau dyluniad terfynol yr uned newydd, gan mai nhw sy’n gwybod orau beth y dylai’r uned ei ddarparu a sut fath o amgylchedd y dylid ei greu.

“Bydd cleifion a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cael eu cynnwys yn y broses hefyd.”

‘Hanfodol’

“Mae ein cymunedau lleol wedi bod mor hael yn barod, ac mae dros dri chwarter y cyllid wedi’i sicrhau,” meddai Tara Nickerson, Rheolwr Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda.

“Dim ond £500,000 sydd ei angen arnom yn awr i gyrraedd ein targed a gallu darparu uned newydd, ac rydym yn apelio am gymorth y cyhoedd i godi’r cyllid hanfodol hwn a’n cynorthwyo mewn unrhyw ffordd bosibl.

“Gyda’n gilydd, gallwn helpu i wella profiad cleifion canser, a gwireddu’r freuddwyd o gael uned gemotherapi newydd sy’n addas i’r dyfodol.”