Mae nifer o wleidyddion Plaid Cymru wedi mynegi pryderon am y posibilrwydd y bydd gwasanaethau ambiwlans Ceredigion yn cael eu torri.

Mae Cefin Campbell, yr Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru am eglurder ynghylch y sefyllfa.

Ar hyn o bryd, mae pedair gorsaf yng Ngheredigion sy’n cael eu staffio 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Mae gan orsafoedd Aberystwyth ac Aberteifi ddau griw yn ystod y dydd a dau yn ystod y nos, tra bod gan Geinewydd a Llanbedr Pont Steffan un criw yn ystod y dydd ac un yn ystod y nos.

Ond mae pryderon y gallai Aberystwyth ac Aberteifi golli’r criw nos, ac na fyddai gwasanaeth gofal brys yn caele i gynnig y tu allan i oriau gwaith yn y dydd yn ystod yr wythnos.

Mae Cefin Campbell yn galw ar Eluned Morgan, Ysgrifennydd Cymru, i adolgyu’r sefyllfa.

“Ar adeg pan mai dim ond 48% o alwadau coch ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda yr ymatebir iddynt o fewn 8 munud – yn hytrach na’r 65% gofynnol – mae cynigion gan Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru i dorri’r ddarpariaeth ambiwlans bresennol yng Ngheredigion yn destun pryder mawr,” meddai.

“Er gwaethaf ymdrechion gorau gweithlu’r GIG a pharafeddygon ledled rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn anffodus rydym yn cael nifer o adroddiadau am unigolion yn aros oriau lawer am ymateb ambiwlans.

“Mae gostyngiad pellach yn y ddarpariaeth yng nghanol argyfwng iechyd yn debygol o achosi anhawsterau pellach , ac mae’n hanfodol bod unrhyw gynigion o’r fath yn cael eu hadolygu ar frys.”

‘Canlyniadau difrifol ar amseroedd ymateb ambiwlans’

Yn ôl Elin Jones, yr Aelod o’r Senedd dros Geredigion, byddai’r newidiadau sy’n cael eu hawgrymu yn cyfateb i ostyngiad o 30% yn ardaloedd Aberystwyth ac Aberteifi, ac mae hynny’n “debygol o gael canlyniadau difrifol ar amseroedd ymateb ambiwlans, llwyth gwaith staff ac yn anochel bydd yn peryglu bywydau”.

“Yr haf hwn yn unig, rwyf wedi gweld cynnydd nodedig yn nifer yr etholwyr sy’n cysylltu â’m swyddfa yn mynegi pryderon ynghylch oedi sylweddol am ambiwlans mewn cymunedau ledled Ceredigion, ac rwy’n ofni y byddai cynlluniau o’r fath ond yn gwaethygu’r sefyllfa ymhellach,” meddai.

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, yn gofidio y bydd y sefyllfa’n “rhoi parafeddygon a staff y Gwasanaeth Ambiwlans dan fwy fyth o straen” ac mae’n “codi pryderon difrifol y byddai gallu’r gwasanaeth i weithredu’n effeithiol yn y sir yn cael ei danseilio”.

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ymyrryd ar frys i sicrhau bod gofal ambiwlans a gofal brys ledled y sir yn cael ei ddiogelu,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.