Bydd Prif Weinidog Cymru yn ymbil ar Lywodraeth San Steffan i beidio ag aildanio trafnidiaeth ryngwladol, mewn cyfarfod heddiw (dydd Mercher 28 Ebrill).

Wrth siarad â Michael Gove, gweinidog Swyddfa’r Cabinet, brynhawn heddiw, mi fydd Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn cynnig ei ddadleuon tros gadw cyfyngiadau fel y maen nhw ar hyn o bryd.

“Coroanfeirws yn cael ei fewnforio unwaith eto o rannau eraill o’r byd – dyna’r perygl mwyaf rydym yn ei wynebu yn fy marn i,” meddai. “Bydda’ i’n ailadrodd hynny i Mr Gove y prynhawn ‘ma.

“Rydym wedi gwneud jobyn ffantastig yma yng Nghymru i gyrraedd lle’r ydym ni heddiw.

“Y peth diwethaf sydd angen arnom yw i fynd yn syth yn ôl at drafnidiaeth ryngwladol. Ac i gael pobol yn mynd i rannau o’r byd lle mae coronafeirws yn cylchredeg mewn modd llawer mwy bywiog.

“A lle mae yna amrywiolion dydyn ni ddim yn ymwybodol ohonyn nhw. Ac yna i ffeindio hynna yn dod yn ôl fan hyn ac yn tanseilio popeth yr ydym wedi ei wneud.”