Mae apêl wedi’i rhannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol yn erfyn ar bobol i beidio â methu eu hapwyntiadau i gael brechlyn.

Daw hynny wedi i fwy na 100 o gleifion beidio â mynychu eu hapwyntiadau brechlyn yn Ysbyty’r Enfys Bangor dros y penwythnos, gyda 90 arall wedi methu eu hapwyntiadau ddoe (Mawrth 29).

Er nad oedd y brechlynnau wedi eu gwastraffu, roedd nifer o apwyntiadau wedi mynd yn wastraff, gydag eraill wedi eu llenwi ar frys.

Roedd hynny’n golygu bod rhaid newid y drefn, gan achosi straen ychwanegol a diangen i staff.

Apêl i’r cyhoedd

Mewn neges ar gyfrif Facebook ‘Clwstwr Arfon Cluster’, sydd bellach wedi cael ei rhannu’n eang gan aelodau’r cyhoedd, mae swyddogion wedi erfyn ar bobol i beidio â thorri eu hapwyntiadau.

“Plîs gwnewch eich gorau i fynychu eich apwyntiad,” meddai’r neges.

“Mae peidio troi i fyny yn rhoi straen mawr ar dîm gweinyddol y Meddygfeydd a’r Bwrdd Iechyd, gan fod capasiti i frechu 1,000 o gleifion y diwrnod yn yr Ysbyty’r Enfys.

“Rydym eisiau brechu pawb cyn gynted â phosib.”

Mae’r unigolion nad oedd wedi troi fyny i’w hapwyntiadau heb reswm dilys wedi eu beirniadu’n hallt gan aelodau’r cyhoedd sydd wedi rhannu’r neges, wrth i nifer ohonyn nhw ddweud eu bod nhw’n “hunanol”.

Newid y drefn

Mae’r neges yn parhau drwy egluro bod llythyrau ac apwyntiadau brechu eisoes wedi eu hanfon i unigolion yng ngrwpiau blaenoriaeth 8 a 9, sef unigolion rhwng 50 a 59 mlwydd oed.

Ond oherwydd y niferoedd uchel o apwyntiadau gwag, bu’n rhaid newid y drefn, oedd yn golygu bod unigolion yn eu 40’a’u wedi cael eu galw ymlaen.

Roedd hynny’n galluogi i’r Ysbyty lenwi capasiti gorau posib ac atal rhag gwastraffu brechlynnau.

Wrth i’r meddygfeydd a thîm Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gysylltu â’r cleifion hyn, mae disgwyl y bydd unigolion sydd yn eu 40au ac sydd heb eu galw yr wythnos hon yn derbyn llythyrau apwyntiad yn fuan.

Maen nhw hefyd wedi hysbysu’r cyhoedd nad oes llinell ffôn swyddogol ar agor, sy’n galluogi unigolion i hunangyfeirio ac felly, ni ddylid ffonio’r ysbyty.

Ystadegau diweddaraf Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf sydd wedi eu cyhoeddi heddiw (Mawrth 30), mae dros 100,000 o drigolion gogledd Cymru bellach wedi cael eu brechu’n llawn rhag Covid-19, tra bod 316,887 yn rhagor o bobol wedi cael dos cyntaf o’r brechlyn.

Oherwydd oedi sylweddol i gyflenwad y Deyrnas Unedig o’r brechlynnau o ddechrau mis Ebrill, bydd y bwrdd iechyd yn derbyn llai o frechlynnau na’r disgwyl.

Er gwaethaf hynny, maen nhw’n hyderus y byddan nhw’n cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 erbyn Ebrill 19 ac i weddill y boblogaeth erbyn diwedd mis Gorffennaf.