Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi bydd llawdriniaethau y bwriadwyd eu cynnal yn Ysbyty Gwynedd yr wythnos hon yn cael eu gohirio.

Daw hynny, er mwyn cynyddu capasiti wedi i glwstwr newydd o Covid-19 effeithio pump o wardiau’r ysbyty, gan olygu eu bod yn trin mwy o gleifion Covid nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig.

Bydd y mwyafrif o lawdriniaethau yn cael eu gohirio, ac eithrio rhai achosion dydd, mamolaeth a phaediatreg.

Bydd llawfeddygaeth frys, gwasanaethau diagnosteg, oncoleg ac apwyntiadau cleifion allanol hefyd yn parhau.

Eglurai Alyson Constantine, Cyfarwyddwr Gofal Llym y Safle yn Ysbyty Gwynedd nad yw gohirio llawdriniaethau dewisol yn “benderfyniad a wnaed ar chwarae bach”.

Dywedodd eu bod yn ymddiheuro am unrhyw ofid a siom a achosir, yn sgil y penderfyniad.

“Gwnaed y penderfyniad hwn i’n galluogi i ddarparu capasiti ychwanegol ar y safle oherwydd nifer y bobl sy’n cael eu trin am haint Covid-19 yn yr ysbyty,” meddai.

“Mae diogelwch ein cleifion a staff yn hynod o bwysig ac roedd yn rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hyn i sicrhau hynny.”

Ymweld â’r ysbyty

Wrth i’r gwaith barhau i drio rheoli’r clwstwr, mae’r Bwrdd Iechyd wedi annog y cyhoedd i gadw draw.

“Helpwch ni i barhau i fodloni’r galw am ofal drwy ddod i’n Hadrannau Achosion Brys dim ond os ydych wedi cael eich anafu’n ddifrifol neu os oes gennych gyflwr sy’n peryglu bywyd.”

Fodd bynnag, bydd apwyntiadau cleifion allanol yn parhau i gael eu cynnal fel yr arfer.

“Mae cyfyngiadau’n parhau ar ymweld, heblaw am rai amgylchiadau cyfyngedig, ond dylai pobl barhau i fynd i apwyntiadau os na chânt wybod yn wahanol.”

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu gyda’r holl gleifion sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd, am ohirio eu llawdriniaeth.

Galw am ‘gynllun adfer’

Wrth ymateb, dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Ceidwadwyr Cymru, Angela Burns:

“Mae ein meddyliau gyda’r bobl dan sylw, o’r cleifion a’r staff ar y wardiau, i’r bobl a fydd bellach yn wynebu oedi cyn cael eu llawdriniaeth arfaethedig.

“Er gwaethaf sicrwydd gan weinidogion Llafur, nid yw gwersi wedi’u dysgu o achosion blaenorol mewn ysbytai yng Nghymru – ac mewn ymchwiliad yn y dyfodol dylid ymchwilio’n llawn i’r maes hwn o’r ymateb i Covid.

“Mae angen adolygu mesurau atal a rheoli heintiau yn barhaus, ac yng ngoleuni’r ysbyty ddiweddaraf yng Nghymru i ganslo llawdriniaeth ddewisol, [mae angen] cynllun adfer gan weinidogion fel y gallwn fynd i’r afael â’r oedi ar restrau aros sy’n cynyddu’n barhaus.”

Achosion yn “bryder enfawr” medd Plaid Cymru

Wrth ymateb, dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS:

“Mae achosion mewn ysbytai yn bryder enfawr o ran y risg y maent yn ei achosi i staff a chleifion, eu goblygiadau ehangach i iechyd y cyhoedd, yn ogystal â’u heffeithiau ar y gallu i barhau ag amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd.

“Mae’r oedi yn ein GIG sydd wedi’i greu gan covid wedi achosi i amseroedd aros godi’n aruthrol a gohirio gwasanaethau allweddol. Bydd mynd i’r afael â hyn yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf yn her enfawr – un y mae Plaid Cymru yn barod i ymgymryd â hi.”

Disgwyl canfod mwy o achosion o Covid-19 yn Ysbyty Gwynedd

Mwy o gleifion Covid yn cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig