Mae meddygfeydd a fferyllfeydd cymuned wedi darparu bron i hanner y 100,000 o frechlynnau oedd wedi’u rhoi yng ngogledd Cymru hyd at Chwefror 1.

Wrth i gyflenwad y brechlyn gynyddu dros yr wythnosau nesaf, byddan nhw’n chwarae rôl fwyfwy sylweddol.

Erbyn diwedd yr wythnos yma, mae disgwyl y bydd 84,000 o bobol eraill ar draws y gogledd wedi cael y brechlyn, gyda 60% o’r dosau hyn yn cael eu rhoi mewn meddygfeydd a fferyllfeydd cymuned.

Mae pob un o’r 98 meddygfa a dros hanner y fferyllfeydd cymuned yn y gogledd yn cefnogi cyflwyno’r rhaglen frechu Covid-19.

“Maent wedi chwarae rôl arweiniol”

Mae’r meddyg sy’n arwain y rhaglen frechu yng Ngogledd Cymru wedi talu teyrnged i’r rôl hanfodol y mae meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn ei chwarae wrth gyflwyno’r rhaglen.

“Rydym wedi cael ymateb positif dros ben gan ein partneriaid gofal cychwynnol ac ni fyddem wedi gallu darparu rhaglen frechu ar raddfa mor fawr heb eu cefnogaeth a’u harbenigedd,” meddai Dr Chris Stockport, Arweinydd Covid-19 a Chyfarwyddwr Gweithredol Gofal Cychwynnol a Chymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Maent wedi chwarae rôl arweiniol wrth gyflwyno’r brechlyn hyd yma a bydd nifer y dosau a roddir yn cynyddu’n sylweddol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

“Bu iddi gymryd o ganol mis Rhagfyr hyd at ddiwedd mis Ionawr i frechu ein 100,000 cyntaf o bobl, gan ei fod yn normal i gyflenwad brechlynnau fod yn is yn ystod yr wythnosau cyntaf o gyflwyno brechlyn newydd.  Wrth i’r cyflenwad gynyddu rydym yn disgwyl rhoi’r 84,000 dos nesaf o fewn cyfnod o bythefnos.

“Rydym yn hyderus bod gennym y capasiti drwy ein partneriaid gofal cychwynnol, Canolfannau Brechu Torfol a Chanolfannau Brechu Lleol i ddarparu nifer cynyddol y dosau wrth i’r cyflenwad gynyddu.”

“Diolchgar i’r holl gleifion am eu positifrwydd”

Mae’r meddyg teulu Dr Clare Corbett yn gweithio yng Nghanolfan Feddygol Clarence yn y Rhyl, un o 98 o feddygfeydd sy’n cefnogi cyflwyno’r rhaglen frechu Covid-19 yn y gogledd.

“Mae ymateb tîm arbennig wedi bod gan staff meddygfeydd, gwirfoddolwyr a chydweithwyr y clwstwr a’r bwrdd iechyd dros yr wythnosau diwethaf i ddarparu’r brechlyn AstraZeneca (Rhydychen) yn ddiogel i’n cleifion mwyaf bregus,” meddai.

“Rydym yn ddiolchgar i’r holl gleifion am eu positifrwydd a’u penderfyniad ysbrydoledig, sydd wedi bod yn hanfodol ar gyfer rhedeg y clinigau’n esmwyth.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu’r brechlynnau i’r boblogaeth ehangach dros y misoedd nesaf yn y frwydr yn erbyn Covid.”

Oherwydd cefnogaeth meddygfeydd a fferyllfeydd cymuned, efallai na fydd angen rhai o’r 16 Canolfan Frechu Leol a gafodd eu clustnodi gan y Bwrdd Iechyd eto.

“Os nad yw’r Canolfan Frechu Leol (LVC) yn eich ardal wedi agor eto, nid yw hyn yn golygu bod y rhaglen frechu Covid-19 ar ei hôl hi o ran yr amserlen,” meddai Dr Chris Stockport.

“Byddant yn parhau i agor lle mae eu hangen, ond efallai na fydd angen bob un, a gall eu dyddiadau agor amrywio i fodloni’r cyflenwad a chefnogi ein gweithlu gofal cychwynnol orau.

“Rydym hefyd yn atgoffa pobl na ddylent gysylltu â’u meddygfa yn uniongyrchol i ofyn am y brechiad COVID-19, oni bai eu bod wedi cael gwahoddiad i wneud hynny.

“Y ffordd orau y gallwch gefnogi staff meddygfeydd a fferyllfeydd cymuned yw drwy beidio â chysylltu â nhw yn uniongyrchol gydag ymholiadau am y brechlyn Covid-19 oni bai eich bod wedi cael apwyntiad brechu.  Ni fyddant yn gallu cynnig y brechlyn i chi’n ddim cynt, ac fe allwch achosi oedi i bobl sy’n ceisio trefnu apwyntiadau cyffredinol.”

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae modd dod o hyd i fwy o wybodaeth am gyflwyno brechlyn Covid-19 yng Ngogledd Cymru fan hyn.