Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi brechu mwy o bobl nag nac unrhyw Fwrdd Iechyd arall yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Mae hynny’n cyfateb i 22% o’r nifer cronnus o’r dos cyntaf o’r brechlyn a gafodd ei roi yng Nghymru, o’i gymharu ag 11% ledled Cymru bythefnos yn ôl.

Daw hynny wedi i’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething ddatgan ei fod yn rhagweld mai Cymru fydd y “wlad sy’n perfformio bumed orau yn y byd” o ran brechu.

Daw’r ystadegau hyn â rhywfaint o gysur i drigolion yn dilyn rhybudd bod yr amrywiolyn yn lledaenu’n gyflym ar draws Gwynedd a bod ysbytai o dan bwysau cynyddol.

Y cynnydd brechu yng Ngogledd Cymru

Erbyn dydd Gwener (Ionawr 15), roedd cyfanswm o 27,762 o unigolion yn y gogledd wedi derbyn brechlyn Covid-19, sy’n cynnwys 28% o blith y grwpiau blaenoriaeth.

Ar hyn o bryd, mae dros 70% o staff y bwrdd iechyd sydd mewn cyswllt uniongyrchol â chleifion wedi cael brechlyn neu wedi trefnu i gael eu dos cyntaf erbyn diwedd y mis.

Fferyllwyr Llŷn yn Llanbedrog oedd y fferyllfa gymunedol gyntaf yng Nghymru i ddarparu brechlyn AstraZeneca Rhydychen, sy’n parhau i gael ei roi i bobol leol.

Bellach, mae pob un o’r 98 o feddygfeydd yn y rhanbarth yn rhan o’r rhaglen frechu, gyda bron i 70% ohonyn nhw wedi cychwyn rhoi brechlyn i’r gymuned leol.

Y brechu’n parhau

Wrth i’r brechu barhau, mae’r bwrdd iechyd yn disgwyl derbyn 21,000 dos o frechlyn AstraZeneca yr wythnos hon yn ogystal â 14 hambwrdd o frechlyn Pfizer.

Y gobaith yw brechu 30,000 yn rhagor o bobol yn y gogledd erbyn diwedd yr wythnos.

Daw hynny wedi i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ddatgan bod 26,000 dos o frechlyn AstraZeneca, oedd fod i’w hanfon at fyrddau iechyd yng Nghymru’r wythnos hon, wedi’u gohirio.

Mae angen i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddarparu dros 184,000 o frechlynnau cyn Chwefror 14 ac yn ôl Teresa Owen, Cyfarwyddwyr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr unig ffactor fyddai’n cyfyngu ar hynny ydi diffyg cyflenwad.

“Rydym ar y trywydd iawn”

“Mae ein timau’n gweithio’n hynod o galed i frechu cymaint o bobl â phosibl yn defnyddio’r cyflenwadau a roddwyd i ni,” meddai Teresa Owen.

“Dechreuom yr wythnos hon wedi brechu dros 30,000 o bobl ers dechrau’r rhaglen. Rydym yn hyderus bod gennym y capasiti a’r cynllun gweithredol yn ei le i fodloni’r targed cyntaf.

“Rydym ar y trywydd iawn i gwblhau brechu holl staff a thrigolion cartrefi gofal erbyn diwedd y mis yn unol â tharged Llywodraeth Cymru.

“Mae staff a thrigolion yr holl gartrefi gofal yn ardal y Gorllewin, heblaw am un sydd yn y categori coch oherwydd achosion, wedi cael eu brechu. Mae ardal y Canol a’r Dwyrain hefyd ar y trywydd iawn.”

Amrywiolyn Covid-19 yn lledaenu’n gyflym yng Ngwynedd

“Byddai’n drasiedi i ni golli rheolaeth o’r sefyllfa rŵan â ninnau’n gweld y golau ar ddiwedd y twnnel”

Cymru yn brechu “cyn gynted ag y gallwn”, medd Vaughan Gething

“Cymru fydd y wlad sy’n perfformio bumed orau yn y byd, ond rydyn ni hefyd yn gwybod ein bod ni’n mynd i gael ein cymharu gyda gwledydd eraill y DU”

26,000 dos o frechlyn Rhydychen-AstraZeneca wedi’u gohirio, meddai Llywodraeth Cymru

“Ni ddaeth un o’r cyflenwadau hyn drwy’r broses brofi,” meddai Mark Drakeford