Mae Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, wedi rhybuddio y gallai gymryd hyd at bedair blynedd i adfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn sgil pandemig y coronaferiws.

Erbyn diwedd mis Mai, roedd oddeutu 60,000 o gleifion yn disgwyl mwy na 36 wythnos am driniaeth ar ôl cael eu cyfeirio, yn ôl Dr Andrew Goodall.

Dywedodd Dr Goodall wrth Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Senedd bod nifer y bobol oedd wedi ymweld ag adrannau damwain ac argyfwng ar draws Cymru wedi gostwng 60%.

Tra bod yno “gwymp amlwg”, gymaint â 70%, wedi bod mewn atgyfeiriadau achosion canser.

“Mae rhestrau aros yn peri gofid,” meddai Dr Goodall wrth y pwyllgor.

Cyn i’r gwarchae ddod i rym, dywedodd Dr Andrew Goodall bod rhagolygon yn awgrymu y byddai 28,000 o bobol yn marw yng Nghymru yn sgil y coronafeirws, ac y byddai 120,000 o bobol yn gorfod mynd i’r ysbyty. O ganlyniad i hyn, gohiriodd GIG Cymru apwyntiadau ysbyty er mwy gallu ffocysu ar drin cleifion coronafeirws.

Gyda’r gwarchae bellach yn cael ei lacio, dywed Dr Goodall ei bod hi am gymryd “cryn dipyn o amser” i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ddychwelyd i sut roedd pethau cyn y pandemig.

“Yn bersonol, dwi’n credu y gallai hyn gymryd tair neu bedair blynedd,” meddai.

Aeth ymlaen i ddweud bod yno ofidion am ail don o’r coronafeirws yn y gaeaf, a fyddai’n cyfuno gyda’r tymor ffliw a’r pwysau arferol sydd ar y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y gaeaf.