Mae Gareth Thomas, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, wedi lansio ymgyrch newydd i dorri’r stigma ynghylch HIV ac i addysgu pobol sydd wedi ei sarhau e a phobol eraill yn y gorffennol.

Adeg cymryd rhan yn Ironman, fe gadarnhaodd e fis Medi y llynedd ei fod yn derbyn triniaeth am y cyflwr.

Mae’n dweud ei fod e’n byw bywyd “hapus, normal a iach”, ond nad oedd e’n gwybod fawr ddim am y cyflwr pan gafodd e ddiagnosis.

“Ro’n i’n teimlo ryw naw mis yn ôl, pan siaradais i am y diagnosis o HIV ges i, fy mod i wedi dechrau sgwrs oedd yn berthnasol am gyfnod, ond fod y sgwrs yn dod i ben wedyn,” meddai.

“Yr hyn roeddwn i am ei wneud oedd cadw’r sgwrs i fynd oherwydd, ar ddechrau’r ymgyrch hon, fe wnaethon ni arolwg ac fe wnaeth y canlyniadau roi rhywfaint o sioc ac ofn i fi.”

Arolwg

Cafodd 4,000 o oedolion gwledydd Prydain eu holi fel rhan o arolwg gan ymgyrch Tackle HIV.

Yn ôl yr arolwg, mae stigma a chamddealltwriaeth yn dal yn gyffredin, er bod datblygiadau gwyddonol a meddygol wedi bod.

Dywedodd 81% o’r rhai wnaeth ateb mai ofn y bydden nhw’n cael eu heintio â HIV fyddai eu prif reswm dros ddod â pherthynas â rhywun sydd â HIV i ben.

Roedd llai nag 20% yn gwybod nad oes modd trosglwyddo’r haint os yw’r unigolyn yn derbyn triniaeth effeithiol.

Dywedodd 34% na fydden nhw’n cymryd rhan mewn campau cyswllt pe baen nhw’n gwybod fod gwrthwynebyd wedi’i heintio.

Cefnogaeth, ond sylwadau sarhaus hefyd

Roedd y Tywysog Harry ymhlith y rhai cyntaf i gynnig ei gefnogaeth i Gareth Thomas adeg ei ddiagnosis.

Ond fe gafodd ei sarhau’n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

“Nid fi sy’n bwysig, mewn gwirionedd,” meddai.

“Pobol sy’n wynebu stigma ac sy’n byw â sarhad sy’n bwysig, a’r realiti yw fod hyn yn rhywbeth na ddylen nhw fod yn wynebu gwahaniaethu yn ei gylch e.”

Er iddo gael ei sarhau yn sgil HIV, mae’n dweud mai dyna’r “norm” ar y cyfryngau cymdeithasol am bob math o resymau erbyn hyn.

“Yr hyn mae’n ei roi i fi yw realiti ’mod i’n byw yn yr amgylchfyd yma nawr lle mae pobol yn fy nghefnogi oherwydd fod pobol yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu heffeithio gan HIV ac maen nhw wedi dysgu am HIV yn sgil hynny, wedi dysgu nad ydw i’n berygl iddyn nhw ac wedi dysgu ’mod i’n byw bywyd hapus a iach.”

Ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r ymgyrch mae Elton John ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins.

Stigma

“Ro’n i’n ymgorffori stigma,” meddai Gareth Thomas.

“Pan ges i wybod [ei fod â chyflwr HIV], ro’n i’n meddwl y byddwn i’n marw.

“Fy meddyliau cyntaf oedd pa mor hir oedd gyda fi i fyw, ac oes gyda fi ddigon o amser i ddweud wrth fy nheulu a ffrindiau ’mod i’n marw o feirws.

“Fe gymerodd gryn amser i fi gael yr addysg i fod yn iawn ac i wybod sut i fyw â’r peth.

“Dw i ddim am weiddi ar bobol y dylen nhw wybod yn well oherwydd, tua 20 mlynedd yn ôl, fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi hysbyseb eitha’ brawychus yn dweud wrth bobol fod HIV – neu Aids fel yr oedd e’n cael ei alw ar y pryd – yn lladd.

“Mae pobol yn teimlo nad oes unrhyw beth wedi cael ei wneud ers hynny i addysgu pobol eto.

“Mae pobol yn credu eu bod nhw eisoes yn gwybod beth sy’n digwydd wrth fyw â fe.”