Mae’r ganolfan Gymraeg Saith Seren yn bwriadu agor siop newydd i werthu nwyddau Cymraeg yn Wrecsam y mis hwn.

Daw hyn wedi i Siop y Siswrn gau eu stondin nhw ym Marchnad y Bobol, Wrecsam ar ôl gwasanaethu yno am 20 mlynedd. Fe fyddan nhw’n canolbwyntio’n awr ar gynnal eu siop nhw yn yr Wyddgrug.

O ganlyniad, mae’r ganolfan Saith Seren wedi cydweithio â Siop Cwlwm o ardal Croesoswallt er mwyn cynnal gwasanaeth debyg yn Wrecsam.

Siop fisol i ddechrau

Dywedodd Marc Jones, cadeirydd menter gydweithredol Saith Seren:

“Ar y cychwyn, bydd yna siop fisol gan ddechrau ar ddydd Gwener 13eg o Ionawr ac yna ar Chwefror 17eg a’r 17eg o Fawrth, lle bydd stondin yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau, gan gynnwys cardiau cyfarch, llyfrau ac anrhegion.

“Gawn ni weld sut mae pethau’n mynd o ran ymateb ond ein gobaith yw ehangu’r gwasanaeth gyda’r bwriad y bydd Saith Seren yn medru cynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg ac unrhyw un sy’n chwilio am anrheg unigryw o Gymru,” meddai wedyn.