Geraint Jones
Dyw Geraint Jones, yr aelod cynta’ i gael ei garcharu yn enw Cymdeithas yr Iaith, ddim yn meddwl llawer o Gomisiynydd y Gymraeg, gan ddweud na fyddai “dagrau’n cael eu colli” pe bai’r swydd yn cael ei diddymu.

Mewn cyfweliad â golwg360 yn edrych yn ôl ar y flwyddyn a welodd nodi hanner canrif ers iddo gael ei garcharu am fis fel rhan o’r ymgyrch i ennill statws swyddogol i’r Gymraeg, mae’n dweud nad yw’n credu bod Meri Huws wedi gwneud “dim gwahaniaeth” i sefyllfa’r iaith, ac mai “rhywbeth cosmetig” yn unig ydi’r swydd.

“Dydyn nhw’n gwneud dim gwahaniaeth, cwbwl ydi o ydi sôn am ryw hawliau… mae gen i hawl i siarad Cymraeg, mae gen i hawl i gael pethau’n Gymraeg, dydi hwnna ddim gymaint o bwys o gymharu â’r hyn sy’n digwydd i’r iaith yn y gymdeithas ac yn y bröydd yma… sef llai a llai o siaradwyr a mwy a mwy o fewnlifiad yn dod i mewn o Loegr,” meddai.

“Fedr yr iaith ddim byw os ydi’r sefyllfa’n mynd i barhau, rydan ni yn cael ein boddi’n gyflym iawn y dyddiau yma.

“Petai’r swydd yn mynd, yn diflannu, dw i ddim yn credu bydd yna lawer o ddagrau yn cael eu colli yng Nghymru, dydi o ddim yn mynd i wneud gwahaniaeth naill ffordd na’r llall.”

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi dewis peidio ag ymateb i’w sylwadau.

Gwrandewch ar Geraint Jones yn dweud ei ddweud yn y clip hwn: