Wrth i’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg ddatgan ei gefnogaeth i’r egwyddor o gydnabyddiaeth swyddogol i gymunedau Cymraeg, rhaid mynnu y bydd y Llywodraeth yn gweithredu’n unol â hyn, yn ôl colofnydd gwleidyddol golwg360


Mae cefnogi’r egwyddor o ddynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol yn gam cyntaf hollbwysig tuag at weithredu effeithiol i ddiogelu cadarnleoedd y Gymraeg.

Dyna pam y gall Papur Safbwynt y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf brofi i fod yn garreg filltir arwyddocaol ac arloesol.

Yn sicr, mae’n datgan yn gliriach a mwy diamwys nag unrhyw adroddiad swyddogol o’i flaen pa mor gwbl hanfodol i hyfywedd y Gymraeg ydi ardaloedd lle mae trwch sylweddol yn gallu ei siarad.

Mae hefyd i’w ganmol am onestrwydd ei asesiad o sefyllfa’r Gymraeg heddiw, trwy gydnabod ei bod “yn wannach fel iaith gymunedol diriogaethol nag y bu erioed,” a hefyd wrth rybuddio mai parhau i ddirywio a wna’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd heb ymyraethau pendant a phenodol.

Mae’r papur hwn yn ffrwyth misoedd o ymgynghori ledled Cymru, gydag ymatebion mudiadau a sefydliadau fel Dyfodol a Mentrau Iaith Cymru yn adlewyrchu consensws cynyddol ymysg caredigion y Gymraeg fod angen mesurau penodol i warchod y cadarnleoedd.

Mae hyn i raddau helaeth oherwydd ei bod yn fwyfwy amlwg bellach nad ydi trin Cymru gyfan fel uned ieithyddol wedi gweithio dros y degawdau diwethaf. Mae hefyd yn fater o gydnabod realiti daearyddol y gwahaniaethau a’r amrywiaethau sylweddol sydd rhwng gwahanol rannau o Gymru a’i gilydd.

Yn y pen draw, mae’n fater o synnwyr cyffredin cwbl elfennol: Os ydym am weld y Gymraeg yn ennill tir ledled Cymru, y cam cyntaf ydi sicrhau ei bod yn dal gafael ar y tir sydd ganddi eisoes.

Mae hyn yn holl bwysig hefyd i amcan penodol y Llywodraeth o ddyblu’r defnydd o’r Gymraeg, gan fod tystiolaeth helaeth (sydd unwaith eto’n fater o synnwyr cyffredin) mai yn yr ardaloedd Cymreiciaf y caiff ei defnyddio fwyaf. Yn yr un modd, mae ffigurau’r Cyfrifiad yn dangos cyfatebiaeth glir rhwng y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg mewn ardal benodol a’r graddau mae plant yn dal gafael ar eu gallu i siarad yr iaith ar ôl gadael yr ysgol.

Dathlu amrywiaeth a gwarchod cynefinoedd

Ar hyd y blynyddoedd, mae ymdrechion i roi sylw a blaenoriaeth ddyledus i gadarnleoedd Cymraeg wedi cael eu llesteirio gan agweddau digon negyddol ar y pwnc. Mae fel pe bai cydnabod bod yna ardaloedd mwy Cymraeg na’i gilydd yng Nghymru yn mynd yn groes i’r graen i lawer o bobol. Yn wir, gellir dweud bod y feddylfryd o drin Cymru gyfan fel uned – waeth pa mor afrealistig – yn ymylu ar fod yn obsesiwn i rai.

Yn hytrach na gweld yr amrywiaeth ieithyddol sydd o fewn Cymru fel rhyw fath o fygythiad, dylid ei weld fel rhywbeth cadarnhaol ac yn rhywbeth i’w ddathlu. Mae’n werth dychmygu cymaint gwanach fyddai sefyllfa’r Gymraeg – a chymaint llai a fyddai’n ei defnyddio – pe bai’r lleiafrif cymharol fach ohonom sy’n gallu ei siarad wedi’n gwasgaru’n weddol gyson ledled Cymru.

Mae’n hen bryd i gynefinoedd naturiol y Gymraeg, lle mae’n dal yn iaith mwyafrif y boblogaeth frodorol, gael y sylw a’r flaenoriaeth ddyledus fel rhan hanfodol ac amhrisiadwy o’n treftadaeth ddiwylliannol.

A rhaid iddyn nhw gael y gydnabyddiaeth a’r warchodaeth swyddogol i sicrhau eu parhad cyn ei bod yn rhy hwyr.

Mae cynsail glir wedi ei gosod yn y mesurau a ddefnyddir i warchod byd natur a’r amgylchedd, lle mae parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cael gwarchodaeth sy’n gymesur â’u hynodrwydd a’u pwysigrwydd.

Diffinio cymunedau Cymraeg

Yn aml, un o brif ddadleuon y rheini sy’n erbyn y syniad o amlygu cadarnleoedd Cymraeg ydi’r anhawster o geisio diffinio ardaloedd o’r fath.

Mae’n wir nad ydi hynny’n hawdd, ond ni ddylai hyn fod yn esgus i fychanu pwysigrwydd dosbarthiad daearyddol y Gymraeg. Yn wir, os cymharwn fapiau o ddosbarthiad y Gymraeg dros y degawdau, mae’r ‘Gymru fwy Cymraeg’ yn dal i sefyll allan fel ardal debyg iawn o ran siâp, er yr holl ddirywiad sy’n golygu bod trothwyau cyffredinol y canrannau bellach yn llawer iawn is.

Y term mae’r Comisiwn yn dewis ei ddefnyddio ydi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol (dwysedd uwch)’. Go brin y bydd term o’r fath yn cael ei ddefnyddio’n helaeth y tu allan i faes cynllunio ieithyddol, efallai, er bod y Comisiwn yn cynnig rhesymeg ddigon cadarn dros y diffiniad.

Beth bynnag am ei ddewis o derminoleg, mae ystyriaethau cychwynnol y Comisiwn wrth ddynodi ardaloedd o’r fath yn ddigon synhwyrol. Yn sicr, mae yn llygad ei le wrth rybuddio yn erbyn dynodi ar sail ardaloedd rhy fach, gan fod yn rhaid i’r ardaloedd “fod yn ddigon mawr i fod yn ystyrlon a bod ganddynt y gallu i gynnwys ardaloedd o’u mewn sy’n syrthio o dan drothwy neilltuol …”

Canlyniad diffinio ar sail unedau daearyddol rhy fach fyddai cael ardaloedd tameidiog, ac felly rhaid meddwl yng nghyd-destun ardaloedd rhywfaint ehangach (megis dalgylchoedd trefi, er enghraifft) er mwyn cael ardaloedd rhesymol ddi-dor.

Ar y llaw arall, ni fyddai unedau rhy fras ac amrwd fel ffiniau cynghorau sir yn adlewyrchiad digon manwl o’r sefyllfa.

Dyma wendid amlwg menter Arfor fel y mae ar hyn o bryd. Mae wedi gwneud gwaith da o ran arloesi cychwynnol yn y maes ac mae’n dangos camau y gellid parhau â nhw ar gyfer y dyfodol. Ar y llaw arall, mae diffygion sylfaenol i gynllun ac iddo’r nod o hybu cymunedau Cymraeg, os yw’n hepgor cymunedau mwyafrifol Cymraeg fel Crymych, dyffryn Dyfi, Nantconwy ac Uwchaled.

Mae’r Papur yn cydnabod hyn, ac yn annog datblygu Arfor i gynnwys ardaloedd fel hyn a hefyd i ddatblygu’n endid datblygu economaidd sy’n gweithredu ar draws ffiniau siroedd. Yn sicr, byddai gweld mwy gydweithredu economaidd ar hyd a lled y gorllewin i feithrin economi Gymraeg yn ddatblygiad hynod adeiladol. Byddai hynny’n llawer gwell na rhai o’r mentrau presennol fel Bargen Twf y Gogledd, sy’n canolbwyntio ar greu cysylltiadau rhwng Gwynedd a Môn a Gannau Dyfrdwy, ac i bob pwrpas, â gogledd-orllewin Lloegr.

Mwy nag un haen?

Un mater nad yw’r Comisiwn wedi ffurfio unrhyw safbwynt arno ar hyn o bryd ydi’r cwestiwn a ddylai fod dwy haen wahanol o ddynodiad o fewn y Gymru fwy Cymraeg.

Gan ddisgrifio’r cwestiwn fel un o “bwysigrwydd mawr”, mae’r Comisiwn yn cydnabod y gwahaniaeth mawr rhwng natur ieithyddol cymunedol lle mae mwy na 70% yn siarad Cymraeg ac un lle mae 40% yn ei siarad. Ar y llaw arall, mae’n ymddangos ei fod rywfaint yn betrusgar y gallai mwy nag un haen gymhlethu’r gwaith o ddynodi’r ardaloedd hyn. Gan gydnabod y ddadl o blaid dywed ei fod yn dal i ystyried cyn dod i gasgliad terfynol ar y pwynt.

Yr hyn y byddwn i’n ei ddadlau wrth y Comisiwn ydi ei bod yn hanfodol cydnabod gwahaniaethau o’r fath. Nid oes raid i hynny beri cymaint â hynny o gymhlethdod – a gellid hefyd osgoi’r term ‘dwy haen’ wrth wneud hyn. Mae hyn oherwydd bod realiti daearyddol y sefyllfa yn gwneud y dasg yn llawer haws. Yr hyn y mae Cyfrifiadau 2011 a 2021 wedi ei wneud ydi amlygu’r gogledd-orllewin fel prif ardal graidd y Gymraeg. Mae cadarnleoedd cryfaf yr iaith yn ffurfio clwstwr gweddol ddi-dor mewn ardal sy’n ymestyn dros ganolbarth a de Môn, y cyfan o Arfon heblaw Bangor, Llŷn ac Eifionydd a gogledd Meirionydd. O fewn yr ardal hon, mae tua 70 y cant ar gyfartaledd yn gallu siarad Cymraeg, lle gellid gweithredu polisïau na fyddai efallai’n bosibl mewn lleoedd mwy cymysg eu hiaith.Mae’n hanfodol felly fod y craidd yn cael cydnabyddiaeth ychwanegol fel ardal o arwyddocâd unigryw i ddyfodol Cymru. Mae i ‘gadernid Gwynedd’ bwysigrwydd cenedlaethol sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau’r sir bresennol sy’n dwyn yr enw.

Statws swyddogol yn hanfodol

Yn ogystal â’r cyfleoedd i ddatblygu amrediad o bolisïau ystyrlon sy’n cydnabod anghenion penodol gwahanol ardaloedd, byddai dynodiad swyddogol yn ffordd hefyd o godi ymwybyddiaeth fod yr ardaloedd hyn yn lleoedd arbennig, a gwahanol. Byddai’n gyfle i dynnu sylw at gryfder y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw. Byddai hefyd yn fodd o ddangos yn glir i unrhyw bobl a fyddai â’u bryd ar symud i fyw i gefn gwlad Cymru nad ydi symud i Wynedd neu Geredigion yr un peth â symud o Lundain i Ddyfnaint neu o Fanceinion i Swydd Efrog.

Er bod angen ystyriaeth ofalus wrth ddynodi’r ardaloedd hyn o arwyddocâd ieithyddol, ac yn sicr osgoi diffiniadau rhy simplistig, does dim un o’r anawsterau’n rhai na ellir eu goresgyn. Y peth pwysicaf o ddigon ydi peidio â gadael i unrhyw ansicrwydd ynghylch ffiniau yn arwain at amheuon ac oedi ynghylch yr angen am ddynodiadau o’r fath yn y lle cyntaf.Os gwrandawn ar y lleiafrif o leisiau negyddol sydd yn erbyn dynodiadau swyddogol i gymunedau Cymraeg, yr unig ganlyniad fyddai colli cyfle i helpu eu gwarchod. Ni fyddai hynny’n gwneud dim oll dros y Gymraeg mewn rhannau eraill o Gymru chwaith.Mae’n holl bwysig fod y Comisiwn yn cael pob anogaeth i ddal ati ar y trywydd hwn mae wedi’i osod iddo’i hun. Dylid pwyso arno hefyd am gyfleoedd pellach i gyfrannu at ddatblygu’r safbwyntiau cychwynnol hyn i’w troi’n argymhellion penodol i’r Llywodraeth dros y flwyddyn nesaf.