Bydd adnodd newydd ar gael o heddiw (dydd Iau, Mehefin 1) i helpu siaradwyr newydd i ddysgu Cymraeg.

O Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri y bydd Lingo+ yn mynd yn fyw – flwyddyn a diwrnod ar ôl lansio gwefan Lingo360 yn ystod Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

Gwefan yw Lingo+ fydd yn gartref i straeon y cylchgrawn poblogaidd Lingo Newydd.

Fel rhan o’r lansiad, bydd sgwrs arbennig yn yr Arddorfa am 11 o’r gloch rhwng Bethan Lloyd, golygydd Lingo+ a Lingo360, ac un o’r colofnwyr, Francesca Sciarrillo, lle bydd hi’n rhannu ei hoff lyfrau i ddysgwyr.

Straeon difyr am Gymru sy’n llenwi tudalennau Lingo Newydd, o grefftau i fwyd, ac o arddio i lyfrau, ond wrth i’r adnodd fynd ar-lein bydd yn cynnig mwy na straeon print mewn iaith addas i ddechreuwyr lefel Mynediad, a dysgwyr Canolradd ac Uwch.

Gyda Lingo+, bydd modd clywed yr erthyglau ar lafar, ochr yn ochr â darllen y testun ar y sgrîn.

Bydd rhestr eirfa (gogleddol a deheuol) wrth ochr y straeon, a bydd modd i ddysgwyr roi eu sylwadau ar waelod yr erthyglau, gan ymarfer eu sgwennu.

Pris Lingo+ fydd £12 am danysgrifiad blwyddyn o’r fersiwn ddigidol, neu £18 i dderbyn y copi print o’r cylchgrawn ochr yn ochr â’r adnodd digidol newydd.

‘Adeiladu ar boblogrwydd eithriadol ein cylchgrawn’

“Mae Lingo+ yn ddatblygiad newydd gan gwmni Golwg, sy’n adeiladu ar boblogrwydd eithriadol ein cylchgrawn i ddysgwyr, Lingo Newydd,” meddai Lowri Jones, Pennaeth Datblygu a Phrosiectau Golwg.

“Gyda thwf mawr yn nifer y bobol sy’n dysgu Cymraeg, mae’n braf datblygu adnodd sy’n ei gwneud hi’n hwylus i bawb ddysgu darllen a gwrando, trwy gyfrwng straeon difyr ac ar declyn o’u dewis nhw.”

Francesca Sciarrillo

Atgofion melys o fynd i Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf

Francesca Sciarrillo

Roedd colofnydd Lingo360 wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2019 sydd wedi ‘newid ei bywyd yn llwyr’