Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi swyddog newydd i arwain ar y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sir.

Daw hyn ar ôl i’r cabinet benderfynu buddsoddi dros £200,000 i ddatblygu menter iaith Gwynedd, Hunaniaith, gyda’r bwriad o’i droi yn fenter annibynnol maes o law.

Wrth iddyn nhw wneud y trawsnewid hwnnw, ac fel na fydd y fenter yn uned o fewn y cyngor, mae Iwan Hywel wedi ei benodi fel Pen Swyddog newydd.

Mae gan Iwan Hywel, sy’n byw yn Nyffryn Ogwen, flynyddoedd o brofiad yn gweithio ym maes cynllunio iaith, ac mae’n Arweinydd Tîm gyda Mentrau Iaith Cymru ar hyn o bryd.

Fe fydd yn cychwyn ar ei swydd newydd gyda Hunaniaith ym mis Mai eleni.

‘Y bobol sy’n bwysig’

Dywed Iwan Hywel y bydd hi’n swydd “heriol ond cyffrous tu hwnt.”

“Mae gennym gyfle i sefydlu Hunaniaith fel menter iaith annibynnol fydd yn creu incwm fydd yn mynd nôl i hybu’r iaith Gymraeg yng Ngwynedd,” meddai.

“Y pethau pwysicaf fydd cydweithio, efo mudiadau cymunedol eraill, a gwrando – y bobol sy’n bwysig.

“Drwy wrando ar lais pobol Gwynedd a’u cynnwys ymhob cam o’r ffordd gallwn sicrhau y bydd y fenter Iaith yn gweithio er budd yr iaith a thrigolion ein sir.

“Dw i’n edrych ymlaen yn ofnadwy i ddechrau ar y gwaith.”

‘Sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg’

Fe groesawodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, y penodiad newydd.

“Mae gan Gyngor Gwynedd hanes hir o hybu a gwarchod yr iaith,” meddai.

“Rydyn ni yn awyddus i weld Hunaniaith yn fenter iaith gref, a fydd yn y pendraw yn gweithredu yn annibynnol o’r Cyngor, gan arwain y gwaith o sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg mewn cymunedau ar hyd a lled ein sir.

“Er mwyn cefnogi’r ymdrechion yma, mae Cabinet y Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £200,000 yn ychwanegol i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yma yng Ngwynedd.

“Bydd hyn yn golygu cryfhau presenoldeb ymarferol staff Hunaniaith ar lawr gwlad yng nghymunedau Gwynedd.

“Rydw i’n falch iawn o groesawu Iwan i’r swydd newydd fel Pen Swyddog Hunaniaith gan arwain ar y gwaith allweddol yma.

“Wedi gweithio i Fentrau Iaith Cymru ers blynyddoedd, mae’n dod â phrofiad a brwdfrydedd dros y Gymraeg ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn dechrau ar y swydd ym mis Mai.”

Ychwanegodd Dafydd Iwan, Cadeirydd Grŵp Strategol Hunaniaith, bod y mudiad yn “ffodus iawn” o gael rhywun mor brofiadol yn y maes, a’i fod yn edrych ymlaen at weld Iwan yn dechrau’r swydd ym mis Mai.

Buddsoddi dros £200,000 i hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd

Y cyllid yn fodd i fenter iaith y sir “symud i’r wedd nesaf” wrth hybu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, meddai Dafydd Iwan

Menter Iaith Gwynedd: Cynghorwyr yn cefnogi argymhelliad Dafydd Iwan i graffu ar greu “anifail hollol wahanol”

Dyweddodd bod angen gwreiddio gwaith Hunaniaith yn y gymuned er mwyn “gwthio’r ffiniau ieithyddol drwy’r sir.”