Mae’r mwyafrif o aelodau Cyngor Gwynedd wedi galw ar y Cabinet i weithredu newidiadau i’r Cynllun Datblygu Lleol.

Mewn cyfarfod ar Fehefin 28 eleni, roedd y cabinet wedi nodi bod “rhaid symud ar frys” i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol.

Hyd yn hyn, does dim gweithredu wedi bod ar eu rhan, sydd wedi achosi i gynghorwyr lofnodi llythyr i’w hatgoffa o’r addewid.

Yn y llythyr, roedd 47 o gynghorwyr yn pwysleisio hyd at 20 newid i bwyntiau gweithredu’r Cynllun, gan gynnwys galw am oedi ar adeiladu tai yn y sir nes bydd arolwg yn cael ei gynnal ar eu heffaith ar y Gymraeg.

‘Fedrwn ni ddim aros pedair blynedd’

Mae Alwyn Gruffydd, y Cynghorydd dros ward Tremadog, yn un o’r rhai sydd wedi arwyddo’r llythyr i gabinet Cyngor Gwynedd ac mae wedi sôn am gyd-destun y Cynllun Datblygu Lleol.

“Penderfynodd y Cyngor ddiwedd mis Mehefin eu bod nhw am weithredu ar frys i adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol,” meddai wrth golwg360.

“Mae amheuaeth wedi codi am eu diffiniad nhw o ‘frys’.

“Roedd rhai yn sôn ei bod hi’n mynd i gymryd hyd at bedair blynedd i gwblhau adolygiad o’r Cynllun.

“Beth mae’r llythyr hwn yn ei wneud ydy cynnig hyd at 20 o wahanol fesurau – gyda chwech mesur yn enwedig – fedran nhw ymgymryd â nhw yn syth.

“Does dim angen iddyn nhw ddisgwyl diwrnod cyn gweithredu’r rhain.

“Fedrwn ni ddim aros pedair blynedd, mae pobol yn dibynnu arnon ni.”

Cafodd Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn ei basio yn 2017 ac mae’n clustnodi tiroedd ar gyfer codi 8,000 o dai yn y ddwy sir.

Mae cynghorwyr wedi pryderu ers amser dros effaith yr adeiladu ar gymunedau a’r iaith Gymraeg.

“Mae yna argyfwng wedi bod ers 50 mlynedd, ond mae proffil y peth wedi codi rwan,” meddai wedyn.

“Fe godwyd y materion yma bedair blynedd yn ôl pan benderfynodd y Cyngor fabwysiadu’r cynllun 8,000 o dai, a hynny o un bleidlais yn unig.

“Ond ar y pryd, roedd [gorsaf niwclear] Wylfa Newydd ar fin dod hefyd, ac roedd angen tai ar gyfer gweithlu yn y fan honno medden nhw, a dydy hynny ddim yn bod bellach.”

Ardal o sensitifrwydd ieithyddol

Mae Alwyn Gruffydd, a gweddill y cynghorwyr a lofnododd y llythyr, yn galw ar y Cabinet i ddynodi Gwynedd yn ardal o sensitifrwydd ieithyddol.

“Dydy hynny ddim yn beth newydd mewn llefydd eraill yn y byd, ond mae o yng Nghymru,” meddai.

“Mae hyn yn golygu bod angen i bobl sy’n siarad Cymraeg gael blaenoriaeth yn y polisi.

“Mae Llywodraeth Cymru yn nodi na ddylai unrhyw gynllun wneud drwg i’r Gymraeg, ond maen nhw hefyd yn dweud na chewch chi ddefnyddio’r Gymraeg fel amod cynllunio.

“Mae yna rai ardaloedd sy’n haeddu sylw arbennig gan fod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith gymunedol.

“Mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yn amod cynllunio yn yr ardaloedd hyn.”

Dydy’r llythyr ddim wedi derbyn unrhyw ymateb gan gabinet Cyngor Gwynedd eto, ond maen nhw’n nodi bod ganddyn nhw ddeng niwrnod gwaith i wneud hynny.