Mae cynghorydd sir wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn “ddifater, diog, a diddychymyg” yn eu penderfyniad i gymeradwyo cais McDonald’s Caernarfon i godi arwydd digidol uniaith Saesneg.

Yn ôl Alwyn Gruffydd, sy’n cynrychioli plaid Llais Gwynedd ar Gyngor Gwynedd, mae’n “warthus” ac yn “waradwyddus”.

Cafodd y cais gwreiddiol i osod arwyddion newydd ar gyfer yr ardal gyrru drwodd ym McDonald’s y dref ei wrthod y llynedd, gan na fydden nhw wedi cydymffurfio â gofynion dwyieithrwydd y cyngor.

Ond mae’r Cyngor wedi cymeradwyo’r cais diweddaraf, gan ddweud nad ydy’r arwydd digidol uniaith Saesneg, sy’n newid yn gyson, yn groes i bolisïau cynllunio.

Roedd Cyngor Tref Caernarfon yn erbyn caniatau’r arwydd digidol, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r penderfyniad yn un “siomedig”.

“Gwarthus”

“Mae’n waradwyddus, mae’n groes i bolisi iaith y Cyngor. Mae’r peth yn warthus, a’r Cyngor yn cael ei redeg gan Blaid Cymru,” meddai’r Cynghorydd Alwyn Gruffydd, sy’n dweud fod yr arwydd dal yn Saesneg, hyd yn oed os yw’r neges yn newid yn rheolaidd.

“Mae gennych chi bolisïau, ac mae’r bobol yma wedi torri eu polisïau eu hunain.

“Mae o dal yn Saesneg dydy,” meddai Alwyn Gruffydd, wrth gyfeirio at y ffaith fod Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi penderfynu nad yw’r cais yn torri polisïau cynllunio o ystyried y ffaith y gellir newid y wybodaeth ar yr arwydd yn rheolaidd.

“Dydy o ddim yn synnu fi, ddim yn fy synnu fi o gwbl,” ychwanegodd.

“Maen nhw’n ddifater, maen nhw’n ddiog, maen nhw’n ddiddychymyg.

“Maen nhw’n bradychu’r hyn rydyn ni wedi’i gredu ers hanner can mlynedd: y dylen ni gael arwyddion sy’n Gymraeg.

“Does yna ddim rheswm pam na fedri di gael arwydd uniaith Gymraeg yng Nghaernarfon…”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod gan McDonald’s “hen ddigon o arian i fforddio arwyddion Cymraeg cyflawn yn eu bwytai”.

Y cais

Cafodd y cynlluniau gwreiddiol eu gwrthod gan Gyngor Gwynedd, gan fod “dim ymdrech” i greu arwyddion dwyieithog.

Y tro hyn, tanlinellodd McDonald’s gamau sydd ar waith yn eu bwyty yng Nghaernarfon, gan gynnwys testun Cymraeg yn y mannau talu a chasglu, ac arwyddion y maes parcio.

Ychwanegodd y cwmni fod cwsmeriaid yn gallu archebu bwyd mewn sawl iaith tu mewn i’r bwyty, a’u bod nhw’n “falch” fod pobol yn gallu archebu yn Gymraeg.

Yn ôl swyddogion Cynllunio Cyngor Gwynedd, rhoddodd McDonald’s ddigon o wybodaeth gefndir yn y cais diweddaraf i gyfiawnhau’r diffyg Cymraeg ar y byrddau digidol.

“Gwrthodwyd cais gan y cwmni fis Tachwedd diwethaf i osod pedwar arwydd digidol a sgrin bwth digidol yng Nghaernarfon,” meddai Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd.

“Roedd hynny oherwydd y byddai’r cynnig wedi cynnwys arwyddion Saesneg yn unig yn hytrach nag arwyddion Cymraeg a Saesneg, a fyddai wedi bod yn groes i bolisïau cynllunio lleol.

“Mae cais diweddaraf y cwmni’n cynnwys amrywiaeth o arwyddion a fydd yn ddwyieithog ac un arwydd electroneg a fydd yn Saesneg, gyda gwybodaeth sy’n gallu cael ei addasu’n rheolaidd.

“Ar ôl ystyried y cais yn fanwl, a’r ffaith y gellir newid y wybodaeth ar yr un arwydd electroneg yma’n rheolaidd, penderfynodd y Gwasanaeth Cynllunio nad ydy’r cais yn torri’r polisïau cynllunio perthnasol.

“Mae’r cyngor wedi gwneud hi’n glir y byddai’n fodlon cefnogi unrhyw ymdrechion gan y cwmni i gyfieithu testun ar gyfer eu harwyddion ar gyfer y safle.”