Dewi Pws fu'n annerch y rhedwyr
Mae cannoedd o bobol wedi ymuno mewn ras redeg trwy drefi yng Ngheredigion er mwyn dathlu’r iaith Gymraeg a phwysleisio’r angen am ei throsglwyddo.

Mae Ras yr Iaith yn codi ar syniad sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn gwledydd bach eraill fel Gwlad y Basg.

Fe gafodd y digwyddiad ei ohirio y llynedd ar ôl cyfarfod gydag awdurdodau ffyrdd a heddlu.

Naw tref

Mae’r ras eleni’n cychwyn ym Machynlleth, ger Senedd-dy Owain Glyndŵr, ac wedyn yn croesi i Geredigion gan alw mewn wyth tref yno a gorffen yn Aberteifi tua saith heno.

Dyma Ras yr Iaith yn teithio drwy Aberystwyth y bore yma:

Yn y trefi ac o’u cwmpas y bydd y rhedeg yn digwydd gydag unigolion a grwpiau’n talu am gymryd rhan a noddi cilomedrau o’r ras.


Y ras yn cyrraedd Llanbed heddiw
Fe fydd batonyn cael ei drosglwyddo o le i le, yn symbol o drosglwyddo’r iaith ei hun.

Fe fydd yr elw yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r iaith yng Ngheredigion, Dyffryn Teifi a Bro Ddyfi.

Dywedodd Rob Phillips, un o stiwardiad y ras wrth iddi deithio drwy Lanbedr Pont Steffan.

“Roedd e’n wych gweld yn holl blant yn joio mas draw, ac yn wych eu bod nhw’n rhedeg dros yr iaith,” meddai Rob Phillips. “Fydden ni ddim wedi gallu gofyn am well tywydd, mae’n fendigedig yma!”

Bu disgyblion ysgol cynradd ac uwchradd yn ogystal â rhieni, athrawon ac aelodau’r cyhoedd yn rhan o’r rhedeg y prynhawn yma.

Roedd Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, allan yn cefnogi’r digwyddiad yn Llanbed heddiw hefyd, ac er na ddaeth hi â’i hesgidiau rhedeg er mwyn ymuno yn yr hwyl, roedd hi’n teimlo ei bod yn bwysig cael digwyddiad fel hon i godi calonnau pobl ynglŷn â sefyllfa’r Gymraeg.

“Mae’n bwysig ofnadwy dathlu’r iaith Gymraeg ambell waith – ry’n ni’n aml iawn yn weddol ddigalon am ddyfodol yr iaith ond mae’n bwysig ein bod ni’n cael cyfle fel heddiw i ddathlu’r Gymraeg ac i ddangos cadernid y Gymraeg dal mewn ardaloedd fel hyn,” meddai Elin Jones.


Y ras yn cyrraedd Clwb Rygbi Llanbed