Y Western Mail yn cwestiynu gwariant ar y Gymraeg yn 2012
Ifan Morgan Jones sy’n synnu ar gwestiwn gafodd ei holi am yr iaith Gymraeg mewn pôl piniwn diweddar …
A fyddai yn well gennych chi weld y Western Mail yn cau i lawr, neu eich ysgol leol?
Mae’n gwestiwn dwl – ychydig iawn a fyddai yn dewis achub y papur newydd mae’n siŵr. Ond mae’n agos iawn at y cwestiwn a ofynnwyd gan bôl piniwn YouGov ar ran ITV dros yr wythnos diwethaf.
Y cwestiwn oedd: ‘Lle fyddai yn well gennych chi weld y fwyell yn syrthio – casglu sbwriel, gwasanaethau i’r bregus, gwasanaethau hamdden, ysgolion, neu’r iaith Gymraeg?’
Roedd y 56% oedd o blaid dileu gwariant ar yr iaith yn rhyfeddol o isel o ystyried natur y cwestiwn.
Wrth gwrs bod y mwyafrif di-Gymraeg yng Nghymru am ddewis eu hysgol leol, neu wagio eu biniau, dros yr iaith Gymraeg.
Ond roedd y wasg wedi gwneud yn fawr o’r canlyniadau heddiw, gyda prif ohebydd y Western Mail yn trydar bod ‘Mwyafrif pobl Cymru am weld llai o wariant ar yr iaith Gymraeg’.
Dyna ddatganiad camarweiniol hyd yn oed o dderbyn bod y pôl ei hun yn annheg.
Beth nad oedd y pôl piniwn yn ei nodi wrth gwrs yw bod gwariant ar yr iaith Gymraeg yn bitw – yn y miliynau – tra bod y gwariant ar addysg ac iechyd yn y biliynau.
Byddai’r cyfan o’r arbedion wedi mynd ar ffioedd ymgynghori cyn bod yr haul yn machlud ar y diwrnod cyntaf.
Cwestiwn arall yw pam bod rhaglenni Cymraeg yn comisiynu polau piniwn annheg fel hyn sy’n fêl ar fysedd y rheini sydd am sicrhau tranc y Gymraeg?
Fe fydd canlyniadau pôl piniwn yn cael eu ‘datgelu’ ar y Byd ar Bedwar heno.