Fe ddisgynnodd gwylan i mewn i dwb o saws tandwri yng Nghasnewydd ddoe, ddeufis yn unig ers i wylan arall wneud yr un peth ym mis Mehefin.

Ym mis Mehefin, syrthiodd gwylan i dwb o tikka masala cyw iâr mewn ffatri gyri yn y de cyn cael ei hachub gan Ysbyty Bywyd Gwyllt Tewkesbury, Swydd Gaerloyw.

Ac yn ôl llefarydd ar ran yr RSPCA, disgynnodd yr wylan ddiweddaraf i’s saws cyri ar Awst 2 yng Nghasnewydd, ac mae bellach yn cael ei thrin yn Ysbyty Bywyd Gwyllt Tewkesbury.

‘Dim anafiadau’

“R’yn ni’n cael nifer o alwadau am wylanod wedi’u hanafu, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn, ond roedd hwn ychydig yn fwy anghyffredin na’r gweddill,” meddai llefarydd ar ran yr RSPCA.

“Does gennym ni ddim syniad a wnaeth yr wylan hedfan i mewn i’r saws oherwydd ei bod eisiau bwyd neu a ddisgynnodd ar ddamwain,” meddai.

“Does ganddo ddim anafiadau, ond mae angen golchiad dda arno,” ychwanegodd gan esbonio y bydd yr wylan yn cael ei rhyddhau ar ôl cynnal gwiriadau terfynol.