Mae Sw Fienna yn dathlu genedigaeth panda mawr.

Fe gafodd y cwbyn ei eni fore Dul i’w fam, Yang Yang a’i dad, Long Hui. Dyma eu pedwerydd cwbyn bach, yn dilyn Fu Long, Fu Hu a Fu Bao.

Mewn datganiad, mae sw Tiergarten Schoenbrunn y cadarnhau fod eu babi newydd yn mesur 10cm o hyd ac yn pwyso 100 gram, ac y bydd yn cael ei enwi pan gyrhaedda ei 100 diwrnod oed.

Does yr un sw arall yn Ewrop wedi llwyddo i fridio pandas yn llwyddiannus ac yn naturiol. Dim ond 60% o bandas sy’n byw tu hwnt i’w blwyddyn gynta’.