Mae tîm achub rhyngwladol De Cymru wedi cyrraedd Christchurch, Seland Newydd, fore heddiw ac wedi dechrau ar y gwaith o chwilio am oroeswyr.

Eisoes, mae nifer y bobol sydd wedi marw yn naeargryn Seland Newydd wedi codi i 113 gyda dau Brydeiniwr ymysg y meirw.

Mae mwy na 200 ar goll o hyd a’r gobaith o’u cael yn fyw yn cilio’n gyflym.

Mae’r wyth swyddog o Dde Cymru yn rhan o dîm ehangach o 62 o achubwyr o bob cwr o Brydain sy’n rhoi cymorth i drigolion Seland Newydd wrth i’r wlad geisio dod tros un o’r trychinebau naturiol mwya’ yn ei hanes.

Fe gyrhaeddodd y tîm am ddeg y bore ac maen nhw wedi dechrau ar y gwaith yn syth.

Fe fyddan nhw’n ymuno gydag achybwyr eraill o wledydd fel yr Unol Daleithiau, Singapore a Japan ac yn chwilio am bobol yn y rwbel yn ninas Christchurch.

Mae swyddogion wedi dweud bod disgwyl i nifer y meirw godi ac fe ddywedodd Gweinidog Tramor Seland Newydd, Murray McCully, eu bod nhw’n paratoi i roi gwybod i deuluoedd o nifer o wledydd am farwolaeth perthnasau.