‘Taflenni ymgyrchu heb eu dosbarthu’n gywir yng Nghaerdydd’
Mae’r ymgeisydd Propel Neil McEvoy yn dweud ei fod wedi gwneud “cwyn ffurfiol” i’r Post Brenhinol ynglŷn â’r mater
Keir Starmer yn dechrau ei ddiwrnod olaf o ymgyrchu yn Sir Gaerfyrddin
Yn ystod ei ymweliad â Hendy-gwyn ar Daf, mae arweinydd y Blaid Lafur wedi pwysleisio y byddai’n cydweithio efo Llywodraeth Cymru
Gallai’r Ceidwadwyr golli pob sedd yng Nghymru, yn ôl yr arolwg barn diweddaraf
Mae’r arolwg gan Barn Cymru yn dangos y gallai Llafur ennill 29 o’r 32 sedd, gyda’r Ceidwadwyr yn colli seddi fel Sir Fynwy, Bro Morgannwg a Wrecsam
Y Comisiynydd Safonau’n poeni am gynlluniau i gosbi gwleidyddion am ddweud celwydd
Bydd pleidlais ar y mater yn y Senedd fory (dydd Mawrth, Gorffennaf 2)
‘Cymru heb lais yn San Steffan heb Blaid Cymru’
Ddylai Llafur ddim cymryd Cymru’n ganiataol, medd Rhun ap Iorwerth
❝ Colofn Huw Prys: Etholiad mwy ffafriol na’r disgwyl i Blaid Cymru?
Wrth i’r Torïaid wynebu chwalfa debygol, beth fydd effaith hyn ar ragolygon y pleidiau eraill yng Nghymru yn yr etholiad ddydd Iau?
Cyhuddo Llafur o “gamarwain” pleidleiswyr ym Mynwy tros bwerau datganoledig
Mae’r blaid wedi’u cyhuddo o wneud addewidion mewn meysydd sydd dan reolaeth y Senedd, ac nid San Steffan
“Annhegwch” prif bleidiau San Steffan yn helpu i yrru neges Plaid Cymru
Fe fu ymgeiswyr y Blaid ym Môn a Phontypridd yn siarad â golwg360 ar drothwy’r etholiad cyffredinol ddydd Iau (Gorffennaf 4)
Cyngor Sir yn amddiffyn gwario arian ar y Gymraeg
Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili eu bod nhw “wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o safon uchel i drigolion”
“Cymru gyfan?”
Rhun ap Iorwerth yn ymateb ar ôl i Rachel Reeves o’r Blaid Lafur restru Cymru ymhlith trefi Lloegr