Ieuan Wyn Jones
Mae cyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, yn dweud ei fod eisiau aros ar fainc flaen y blaid yn y Cynulliad.

Mae’n gobeithio cadw’i le yn llefarydd ar faterion economaidd – y swydd y buodd yn ei gwneud yn Llywodraeth Cymru.

Ond fe ddywedodd ar y rhaglen radio, Dan yr Wyneb, na fyddai’n ymyrryd yng ngwaith ei olynydd, Leanne Wood, gan geisio arwain o’r sedd gefn.

Ddydd Iau y cyhoeddwyd mai Leanne Wood oedd wedi ennill y ras i fod yn arweinydd Plaid Cymru, gan gymryd lle Ieuan Wyn Jones.

Fe wadodd y cyn arweinydd fod canlyniadau etholiadau diwetha’r Cynulliad yn fethiant i’r Blaid a bod chwilio am ateb syml yn anghywir.