Mae ymgyrchwyr Extinction Rebellion yn targedu Adran Drafnidiaeth, Llywodraeth Prydain, gan alw ar roi terfyn ar ariannu “prosiectau niweidiol” fel trên cyflymder uchel HS2 ac ehangu meysydd awyr.

Yn ôl un o gyd-sefydlwyr y grŵp, Gail Bradbrook, mae hi’n gwneud hyn oll er mwyn achub coed sydd o dan fygythiad gan HS2.

“Dw i’n gwneud hyd mewn cariad angerddol tuag at 108 o goed hynafol sydd o dan fygythiad gan HS2, mae’r prosiect yn drosedd amgylcheddol,” meddai.

“Os yw’r Llywodraeth o ddifrif ynghylch cynlluniau i gyrraedd eu targed net zero mae’n rhaid iddynt roi terfyn ar ariannu prosiectau niweidiol fel HS2.”