Ddylai San Steffan ddim “anghofio” am yr iaith Gymraeg, er ei fod yn fater sydd wedi ei ddatganoli i Fae Caerdydd, yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol.

Daeth sylwadau Glyn Davies, yr aelod tros Sir Drefaldwyn, yn ystod dadl arbennig a gynhaliwyd yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (nos Fercher, Hydref 2) ar y testun ‘Yr Iaith Gymraeg’.

Yn ôl y gŵr ei hun, roedd wedi galw am y ddadl oherwydd ei fod yn credu y dylai’r Gymraeg fod yn destun trafod yn San Steffan “o leiaf unwaith ym mhob Senedd”.

Dywedodd hefyd mai ei araith ar y testun, o bosib, fydd ei “araith olaf” cyn y bydd yn ymddeol adeg yr etholiad cyffredinol nesaf, wedi naw mlynedd o fod yn Aelod Seneddol.

‘Ddylen ni ddim anwybyddu’r iaith’

Yn ei araith, dywedodd Glyn Davies fod gan San Steffan a Llywodraeth Prydain ran i’w chwarae wrth gefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymgais i ddiogelu’r Gymraeg – yn enwedig wrth gynyddu’r ddarpariaeth o addysg Gymraeg, ac wrth annog y defnydd o‘r iaith yn y gweithle ac mewn meysydd eraill.

“Mae angen i ni, Aelodau Seneddol Cymreig, ymatal rhag yr agwedd ‘datganoli ac anghofio’,” meddai Glyn Davies.

“Weithiau, mae’n hawdd i Weinidogion, pan mae yna bwysau arnyn nhw i ddelio â beth bynnag sydd ar eu desgiau ar ddiwrnod penodol, i ddatganoli rhywbeth, ac yna ei dynnu oddi ar yr agenda ac anghofio amdano.

“Ddylen ni ddim gwneud hynny. Efallai fod yr iaith Gymraeg wedi ei datganoli, ond mae gennym dal cyfrifoldeb drosti.

“Ddylen ni ddim rhoi polisi’n ymwneud â’r iaith Gymraeg mewn bocs. Mae’n fater ar gyfer pob Adran – ac nid Swyddfa Cymru yn unig.”

Glyn Davies a’r Gymraeg

Fe gyfeiriodd Glyn Davies hefyd at ei gysylltiad personol â’r iaith, gan honni mai ef a’i chwiorydd oedd y genhedlaeth gyntaf o fewn y teulu i beidio â chael magwraeth ddwyieithog – Cymraeg a Saesneg.

Dywedodd mai’r rheswm pennaf am hyn oedd oherwydd bod ei rieni yn credu mai “iaith o fethiant” oedd y Gymraeg. 

Roedd symud o ardaloedd Cymraeg Llanerfyl i Bontrobert i ardaloedd di-Gymraeg Castell Caereinion a Aberiw yn rheswm arall, meddai wedyn.

“Dw i ddim yn cofio fy rhieni, a oedd yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, yn siarad Cymraeg o flaen y plant, byth,” meddai Glyn Davies, a aeth ati i ddysgu’r Gymraeg pan oedd yn hŷn.

“Dyw hynny ddim yn feirniadaeth mewn unrhyw ffordd; doedd e ddim yn anghyffredin ar y pryd.

“Fe gafodd effaith ar bob un ohonom ni.”