Mae teulu’r diweddar Paul James, y seiclwr a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad gyda dau gar ger Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf, wedi talu teyrnged i “ŵr a thad cariadus”.

Fe ddigwyddodd y ddamwain am tua 5.30yp ddydd Iau (Ebrill 11) ar ffordd yr A487 rhwng Waun Fawr a Bow Street.

Roedd Paul James, 61, yn gynghorydd Plaid Cymru yn ward Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth.

“Roedd Paul yn ŵr a thad cariadus a wnaeth fyw ei fywyd i’r eithaf,” meddai ei deulu mewn datganiad.

“Fe dreuliodd cyfnodau yn y Fyddin Brydeinig a Lleng Dramor Ffrainc. Fe barhaodd i wasanaethu ei gymuned trwy gyfrwng amryw o swyddi yn ei dref enedigol, yn ogystal â bod yn gynghorydd sir a chymuned.

“Roedd Paul yn caru chwaraeon ac yn hyfforddi ar gyfer taith seiclo elusennol er mwyn codi arian ar gyfer ward gofal y galon yn ysbytai Bronglais a Threforys, lle y derbyniodd driniaeth ar ei galon.

“Roedd gan Paul hiwmor arbennig, ac mae gan ei deulu llawer o atgofion a fydd yn siŵr o godi gwên pan fyddan nhw’n meddwl amdano.

“Bydd Paul yn cael ei golli’n fawr.”