Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yr opsiwn maen nhw’n ei ffafrio ar gyfer codi pont newydd dros afon Menai.
Mae cynlluniau i godi trydedd pont wedi bod yn yr arfaeth ers blynyddoedd, ac mewn ymgynghoriad y llynedd cafodd pedwar opsiwn eu cynnig.
Wrth siarad yn Ynys Môn ddydd Iau (Hydref 11), mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi datgan mai’r ‘llwybr porffor’ y mae’r Llywodraeth yn ei ffafrio.
Dan yr opsiwn hwnnw, byddai pont newydd yn cael ei godi i ddwyrain Pont Britannia, a byddai gwelliannau yn cael eu rhoi ar waith i Gyffordd 8 ac 8A yr A55.
Yn ôl y Prif Weinidog, dyma’r opsiwn mwyaf buddiol i’r economi, ac mae’n debyg bod 25% o’r cyhoedd hefyd yn ei ffafrio.
A fo ben, bid bont
Mae yna ymgyrch ar droed i berswadio awdurdodau i godi pont ar ffurf cerflun o’r cawr Bendigeidfran fel trydedd croesfan dros afon Menai.
Y llwybr porffor mae’r ymgyrchwyr yn ei ffafrio hefyd, ac ar hyn o bryd mae un o bwyllgorau’r Cynulliad yn ystyried deiseb ganddyn nhw.
Yn sgil cyhoeddiad y Llywodraeth, bydd ymgynghorwyr technegol yn cael eu penodi i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y bont.