Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds wedi galw am Gymru “deg, rydd a rhyddfrydol” yn ei haraith fawr yng nghynhadledd wanwyn y blaid yng Nghaerdydd.

Dros y misoedd nesaf, mae disgwyl iddi gwrdd ag aelodau’r blaid i drafod meysydd y “chwe drwg mawr” mae Cymru’n eu hwynebu, sef tlodi, iechyd, tai, addysg, datblygiad economaidd ac unigrwydd.

Yn ei haraith, galwodd hi am “Gymru sy’n rhoi’r cyfle i bobol godi ar eu traed a symud ymlaen yn eu bywydau” ac am “Gymru sy’n rhoi rhyddid, cyfle a sicrwydd i ni ffurfio ein tynged ein hunain, i gymryd risg ac i gyrraedd ein potensial”.

Talodd hi deyrnged hefyd i Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams, sy’n aelod o Gabinet Llywodraeth Lafur Cymru a’r dylanwad mae hi’n ei gael ar y llywodraeth yn ei rôl.

Roedd ei haraith hefyd yn cyfeirio at gynlluniau morlyn llanw yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn, gan alw ar i Lywodraeth Prydain roi sêl bendith i’r cynllun yn Abertawe.

Brexit

Roedd Brexit hefyd ar yr agenda yn ei haraith, wrth iddi alw am roi un cyfle olaf i bobol leisio barn am adael yr Undeb Ewropeaidd cyn bod cytundeb.

Dywedodd nad oedd “democratiaeth wedi dod i ben ar Fehefin 23” a bod gan “bobol yr hawl i newid eu meddyliau”.

Wrth gloi, dywedodd, “Gadewch i ni roi tegwch a rhyddid yn ôl wrth galon gwleidyddiaeth Cymru.”