Mae disgyblion o ysgolion Gwyddeleg ac ymgyrchwyr iaith wedi cynnal protest y tu allan i Stormont gan alw am Ddeddf Iaith Wyddeleg.

Mae’r brotest yn cyd-daro â chyfarfod rhwng ymgyrchwyr iaith a’r Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, Karen Bradley, yn Stormont House ddydd Iau (Chwefror 1).

Anghydfod tros Ddeddf Iaith Wyddeleg sy’n bennaf gyfrifol am anallu pleidiau Gogledd Iwerddon i daro bargen tros ffurfio Llywodraeth newydd.

Hyd yma mae’r Unoliaethwyr Democrataidd wedi gwrthwynebu’r ddeddf oherwydd dydy hi ddim yn diogelu diwylliannau ac ieithoedd eraill, gan gynnwys Sgoteg Wlster.

“Ymladd yn ôl”

“Rydym wedi cael llond bol o’r ymosodiadau, y gwahaniaethu yn ein herbyn, ac o’r diwedd rydym ni’n ymladd yn ôl,” meddai’r disgybl Katy-Rose Meade ar risiau Stormont.

“Rydym yn galw ar bob plaid i barhau i sefyll gyda ni, wrth i ni sefyll gyda’n gilydd i sicrhau cydraddoldeb i siaradwyr yr Iaith Wyddeleg.”

Roedd gwleidyddion o Sinn Fein a’r Blaid Lafur Democrataidd Cymdeithasol (SDLP) yn rhan o’r brotest.